Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y cerddor poblogaidd Luke Gallagher yn cynnal gig elusennol am ddim…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y cerddor poblogaidd Luke Gallagher yn cynnal gig elusennol am ddim…
Pobl a lle

Y cerddor poblogaidd Luke Gallagher yn cynnal gig elusennol am ddim…

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 15, 2022 2:40 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Luke Gallagher
RHANNU

Mae gan y cerddor lleol Luke Gallagher galon fawr pan ddaw i bobl Wrecsam. Er mwyn cefnogi teuluoedd yn ystod y cyfnod anodd hwn mae’n cynnal gig yn Yellow and Blue (YaB) ddydd Mawrth 20 Rhagfyr.

Er na fydd Luke yn cael ei dalu – mae’n gofyn i chi roi rhodd i fynd i mewn.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Gallwch fynd â theganau neu fwyd Nadoligaidd neu roi rhodd wrth y drws. Bydd popeth a dderbynnir yn cael ei roi i YaB i’w ddosbarthu i deuluoedd sy’n cael trafferth i brynu anrhegion i’w plant neu i roi bwyd Nadoligaidd ar y bwrdd.

Bydd y drysau ar agor am 7pm a Luke ar y llwyfan am awr am 7.30.
Bydd unrhyw elw a wneir o werthu nwyddau hefyd yn mynd i YaB ar ffurf bwyd a theganau.

Os na allwch fod yn bresennol ar y noson, gallwch gyfrannu yn y Golden Lion yng Nghoedpoeth, sydd wedi cytuno i gymryd rhoddion.

Mae gan Luke dri pherfformiad dros y penwythnos hefyd a bydd yr elw o’r rheini i gyd yn cael ei roi i YaB.

Meddai Luke, “Mae’n anodd ar hyn o bryd, heb unrhyw arwyddion ei fod yn mynd i wella. Hoffwn wneud rhywbeth i wneud gwahaniaeth y Nadolig hwn. Drwy weithio gyda Yellow and Blue, rwy’n gwybod y bydd cymorth yn cael ei roi i’r bobl iawn mewn pryd ar gyfer y Nadolig. Diolch Wrecsam, gadewch i ni gefnogi’r rhai sydd angen ein cymorth.”

“Hoffwn hefyd ddiolch i eglwys Sant Tidfal am gyfrannu bocs mawr o deganau, y bydda i’n mynd â nhw gyda mi ddydd Mawrth.”

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Cadeirydd y Grŵp Costau Byw, “Mae’n gynnig hynod ac yn un y gall Luke fod yn falch ohono. Rwy’n gobeithio y bydd cymaint o bobl â phosibl yn gallu rhoi rhywbeth ar y drws er mwyn rhoi Nadolig llawen i deuluoedd ledled Wrecsam.”

Meddai Pete Humphreys o Yellow and Blue, “Mae’n weithred hael iawn gan Luke a gwn fod ganddo lawer o ddilynwyr a fydd yn gwneud eu gorau i’w gefnogi cyn ac yn ystod y digwyddiad.”

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Fry Fresh Cwmni lleol Fry Fresh yn gwneud cynnig hael
Erthygl nesaf swimming Teuluoedd yn cael nofio am ddim eto y Nadolig hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English