Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r camau nesaf o ran mynd i’r afael â digartrefedd yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle
Wrexham Guildhall
Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r camau nesaf o ran mynd i’r afael â digartrefedd yn Wrecsam
ArallY cyngor

Y Cyngor a Llywodraeth Cymru yn amlinellu’r camau nesaf o ran mynd i’r afael â digartrefedd yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: 2020/08/17 at 5:45 PM
Rhannu
Darllen 6 funud
Homelessness
RHANNU

Mae Cyngor Wrecsam a Llywodraeth Cymru yn cydweithio ar y camau nesaf wrth fynd i’r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn Wrecsam.

Cynnwys
Dull fesul camGweithio Gyda’n Gilydd

Yn gynharach eleni – er mwyn helpu i atal lledaeniad y coronafeirws – gofynnodd Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol symud pobl sy’n cysgu ar y stryd a darparu llety dros dro iddynt.

Bu’r cyngor yn gweithio gyda Phrifysgol Glyndŵr i brydlesu llety myfyrwyr gwag dros dro ym Mhlas Coch a oedd wedi’i glustnodi ar gyfer ailddatblygu yn y dyfodol.

Mae’r Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai yn egluro:

“Mae’r hen lety myfyrwyr wedi’i ddefnyddio i ddarparu llety i bobl sy’n ddigartref neu sy’n cysgu ar y stryd dros y misoedd diwethaf, a’u cefnogi, ac mae’r trefniant wedi bod yn llwyddiannus iawn.

“Yn ogystal â helpu i atal lledaeniad y coronafeirws a chadw ein cymunedau’n ddiogel yn ystod yr argyfwng presennol, mae wedi rhoi cyfle i’r cyngor a’i bartneriaid ddarparu cefnogaeth ychwanegol i lawer o bobl…gan eu helpu i ganfod llwybrau eraill i wella iechyd, cyfleoedd cyflogaeth a thai.

“Fodd bynnag, dim ond trefniant dros dro oedd yr adeilad, a – fel gweddill Cymru – rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ganfod datrysiad mwy parhaol.

“Rydym yn gweithio’n galed iawn i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i gynghorau.”

SUT I GAEL PRAWF OS OES GENNYCH SYMPTOMAU CORONAFIRWS.

Dull fesul cam

Mae pecyn cytbwys o fesurau yn cael ei ystyried, sy’n cynnwys:

  • Canfod adeilad amgen i ddisodli’r cyfleusterau ym Mhlas Coch ar ddiwedd mis Medi. Bydd hyn yn darparu datrysiad tymor canolig tra mae Tŷ Nos yn cael ei ailddatblygu.
  • Ailddatblygu’r cyfleuster Tŷ Nos presennol i bobl sy’n cysgu ar y stryd yng nghanol y dref i ddarparu canolfan gefnogaeth barhaol gyda chapasiti uwch.
  • Nodi a phrynu pum eiddo ychwanegol i’w defnyddio fel ‘llety angen cyffredinol’ y gellir ei ddefnyddio mewn gwahanol sefyllfaoedd i gefnogi pobl sy’n ddigartref.
  • Diweddaru Polisi Dyraniadau Tai y cyngor i’w gwneud yn haws i ganfod llety mwy parhaol i bobl ddigartref – yn unol â chyfarwyddyd Llywodraeth Cymru.

Meddai’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor:

“Rwyf am ddweud diolch yn fawr i Brifysgol Glyndŵr am eu help a chefnogaeth dros yr haf. Mae caniatáu i ni brydlesu’r llety myfyrwyr gwag wedi bod o help mawr, ac rydym yn hynod o ddiolchgar.

“Fel cyngor, rydym yn gweithio’n agos gyda’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, i wireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru.

“Bydd y mesurau rydym yn edrych arnynt ar gyfer yr hydref yn helpu i leihau nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yn y dref, lleihau’r pwysau yn ein cymunedau, a’n harwain at ddatrysiad hirdymor a fydd o fudd i bawb.

“Mae polisi Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i gynghorau ganfod datrysiad tymor hir i gysgu ar y stryd, ac rwy’n credu bod hyn yn bwysig iawn i Wrecsam.”

Gweithio Gyda’n Gilydd

Ychwanegodd y Cynghorydd Pritchard:

“Mae’r cynigion wedi’u dylunio trwy weithio agos rhwng llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol, gyda chefnogaeth gan Gymdeithas Tai Clwyd Alyn, ac maen nhw’n seiliedig ar gyllid gan y cyngor a llywodraeth leol.

“Bydd symud pobl oddi ar y stryd, a darparu’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i wella eu rhagolygon o ran iechyd, cyflogaeth a thai yn helpu pawb yn y tymor hir.”

Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

“Mae’r coronafeirws wedi ein hatgoffa i gyd am bwysigrwydd sylfaenol tai fforddiadwy o ansawdd da, cartref saff a diogel a chymunedau cydlynus lle mae pobl am fyw a gweithio.

“Rwyf wedi bod yn glir nad wyf am weld unrhyw un yn cael eu gorfodi i ddychwelyd i gysgu ar y stryd. Mae gennym gyfle unigryw i newid gwasanaethau a newid bywyd er gwell – a sicrhau bod digartrefedd yn brin, yn fyr ac nad yw’n digwydd eto.

“Mae cydweithio ar draws partneriaid yn allweddol i lwyddiant; mae gweithio mewn partneriaeth wedi helpu i ddiwallu anghenion brys a datblygu’r mesurau tymor hwy a amlinellir gan Gyngor Wrecsam.

“Bydd y pecyn a gyhoeddwyd yn adeiladu ar waith Wrecsam hyd yma a helpu i drawsnewid gwasanaethau yn y tymor hwy. Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio’n agos i ddarparu cartrefi o ansawdd uchel a chefnogaeth sy’n atal digartrefedd a lle na ellir ei atal, sicrhau bod pobl yn cael llety arall a hynny’n gyflym.”

Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”]YMGEISIWCH RŴAN[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol A-level Canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol a Safon Uwch – Datganiad i’r wasg gan y Rhanbarth
Erthygl nesaf Covid-19 Covid-19 (Novel Coronavirus) – Nodyn Briffio’r Cyhoedd 17.08.20

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

R- L: Former Mayor Cllr Beryl Blackmore; Heather Collin chair of Dementia Friendly Wrexham; former Mayor's Consort Dorothy Lloyd; and Michael Locke Wales fundraising manager Bowel Cancer UK
Cyn-Faer yn rhoi ei sieciau i elusennau lleol
Pobl a lle Medi 12, 2025
The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd
Y cyngor Medi 11, 2025
Ty Pawb
Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m
Pobl a lle Y cyngor Medi 11, 2025
Dwylo oedolyn sy'n dysgu sut i wneud crefftau Macrame
Ymunwch â dosbarth am ddim yn Wrecsam yr Wythnos Addysg Oedolion hon
Digwyddiadau Pobl a lle Medi 11, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The Council Chamber at the Guildhall in Wrexham
Y cyngor

Y Cyngor yn ystyried cynllun ymgynghori ar gyfer tair ysgol gynradd

Medi 11, 2025
Ty Pawb
Pobl a lleY cyngor

Tŷ Pawb yn derbyn grant Cyngor Celfyddydau Cymru o Gronfa Buddsoddi Cyfalaf Llywodraeth Cymru o £8m

Medi 11, 2025
Wrexham Guildhall
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn croesawu canfyddiadau cadarnhaol o’r Asesiad Perfformiad Panel cyntaf

Medi 10, 2025
Ruthin Road Park and Ride location
Pobl a lleY cyngor

Wrecsam yn erbyn QPR: rhowch gynnig ar barcio a theithio

Medi 10, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English