Wythnos Gweithredu Dros Ddementia – Mai 16-22
Dan arweiniad y Gymdeithas Alzheimer’s, bydd y cyhoedd yn dod at ei gilydd yn ystod Wythnos Gweithredu Dros Ddementia i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan ddementia.
Mae Cyngor Wrecsam wedi llwyddo i gynnal y statws ‘gweithio tuag at fod yn awdurdod sy’n deall dementia’ am y drydedd flwyddyn yn olynol, fel y mae’r Gymdeithas Alzheimer’s wedi’i gadarnhau.
Yn ogystal â chymorth parhaus gan yr adran gofal cymdeithasol i oedolion, mae yna Hyrwyddwyr Cyfeillion Dementia yn yr awdurdod hefyd sy’n darparu sesiynau ymwybyddiaeth i aelodau eraill o staff i weithio tuag at wneud Wrecsam yn awdurdod sy’n deall dementia.
Mae’r pandemig wedi effeithio’n fawr ar ofalwyr teulu a gofalwyr proffesiynol ac yn ôl adroddiad, rhwng mis Mawrth a Mehefin 2020, roedd gan chwarter o’r bobl yn y DU a gollodd eu bywydau i Covid-19 ddementia.
Yn ystod y cyfnodau heriol hyn bu i’r cyngor roi cymaint o gefnogaeth â phosibl i’r unigolion hynny a effeithiwyd gan ddementia a’u teuluoedd.
Parhau i wneud cynnydd
Gan gynnal y statws am y drydedd flwyddyn, mae’r cyngor yn parhau i gadw safonau yn uchel ac yn parhau i wella bywydau’r rheiny sy’n byw â dementia.
Ar ôl clywed y newyddion am y cyrhaeddiad hwn, dywedodd Alwyn Jones, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol, “Mae’n wych clywed bod Cyngor Wrecsam wedi cadw ei statws o weithio tuag at fod yn awdurdod sy’n deall dementia.
“Mae llawer o’n staff yn gweithio’n ddiflino i roi cefnogaeth i’r rhai sy’n byw â dementia a’u teuluoedd, ac mae derbyn y wobr hon yn adlewyrchu hynny.
“Mae ymchwil cenedlaethol wedi dangos bod y pandemig Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl y rhai sydd wedi’u heffeithio gan ddementia. Bu i’w teimladau o unigedd gynyddu a gwelwyd dirywiad yn eu lles corfforol a’u galluoedd gwybyddol.
“Felly roedd yn bwysicach nag erioed ein bod yn cynnal ein safonau uchel o gymorth a gwneud yn siŵr bod cefnogaeth bob amser ar gael i’r rheiny yn ein cymuned sydd â dementia a’u teuluoedd.”