Mae cwmni wedi cael y ddirwy uchaf bosibl am dorri eu hamodau cynllunio ar Ddatblygiad Tai Home Farm yn Llai.
Cafodd y cwmni ddirwy o £666, yn ogystal â chostau o £280 a gordal dioddefwr o £266 gan Lys Ynadon.
Roedd y caniatâd cynllunio ar gyfer y datblygiad yn Llai yn destun ystod o amodau yn cynnwys amod i gyfyngu amseroedd cyflenwi ac oriau gwaith adeiladu.
Ar ôl i’r gwaith adeiladu ddechrau, derbyniodd Cyngor Wrecsam gwynion bod y gwaith yn cael ei wneud y tu allan i’r oriau amodol. O ganlyniad, cyflwynwyd Hysbysiad Torri Amod i Bellway Homes ym mis Awst 2023.
Derbyniwyd adroddiadau pellach am weithio y tu hwnt i’r oriau a ganiateir ar ôl cyflwyno’r Rhybudd, felly dechreuodd yr adran gynllunio achos erlyn am beidio â chydymffurfio â’r Hysbysiad. Plediodd y cwmni’n euog.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol cynllunio strategol a gwarchod y cyhoedd: “Mae amodau cynllunio yn cael eu gosod i sicrhau datblygiadau o ansawdd uchel ac yn yr achos hwn, i leihau effaith y gwaith adeiladu ar breswylwyr cyfagos.
Mae’r adran gynllunio wedi ymrwymo i orfodi amodau a osodir ar ganiatâd cynllunio a chymryd camau gorfodi pan fo angen.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.