Mae cwmni o Wrecsam wedi cael y ddirwy uchaf bosibl gan Lys Ynadon Wrecsam ar ôl methu â chydymffurfio â Rheoliadau Hysbysebu.
Ar ôl i arwydd wedi’i oleuo gael ei osod ar siop e-sigaréts ar Stryt yr Hôb, cysylltodd Cyngor Wrecsam â’r perchnogion i’w hysbysu bod angen i’r arwydd fod yn llai o faint a bod angen i’r golau gael ei ddiffodd, ond ni wnaethpwyd hynny.
O ganlyniad, aethpwyd â’r cwmni i’r llys a chafodd y ddirwy uchaf gan yr Ynadon – sef £1000 gyda swm ychwanegol o £400 am gymorth i ddioddefwyr a chostau o £280.
Mae’r llys wedi gwneud yn glir, os na chaiff y gwaith ei gwblhau o fewn yr wythnos nesaf, byddai disgwyl i’r cyngor wneud erlyniad pellach.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol cynllunio strategol a gwarchod y cyhoedd: “Mae Cyngor Wrecsam yn trin achosion o fethu â chydymffurfio â rheoliadau cynllunio yn ddifrifol iawn.
“Mae ein swyddogion cynllunio bob amser yn hapus i gynghori busnesau i wneud yn siŵr eu bod yn gweithio o fewn y rheolau, sydd yno i warchod y Fwrdeistref Sirol a’i thrigolion. Ni fyddant ychwaith yn oedi cyn cymryd camau gorfodi pan fydd yn fuddiol gwneud hynny.”