Bydd y Dirprwy Arweinydd, y Cyng. David A Bithel yn goruchwylio rôl prif aelod Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Iechyd yn dilyn ymddiswyddiad diweddar y Cyng. Joan Lowe o’r Bwrdd Gweithredol.
Meddai’r Cynghorydd Bithell: “Mae hon yn rôl aelod arweiniol allweddol ac ni ellir cadarnhau penodiad newydd nes bydd cyfarfod llawn y Cyngor ym mis Medi. Byddaf yn goruchwylio’r maes hwn yn y cyfamser ac yn gweithio’n agos gyda swyddogion i sicrhau fod popeth yn mynd yn dda nes y gellir penodi rhywun arall.
“Mae’n hanfodol nad oes bwlch mewn maes gwaith mor bwysig ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gydag wynebau newydd dros yr wythnosau nesaf, a gallaf eich sicrhau y cewch fy nghefnogaeth a’m cydweithrediad llawn nes y gallwn drosglwyddo cyfrifoldebau’n iawn i aelod arweiniol newydd.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN