Ar 17 Medi eleni, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr yng Nghymru yn newid o 30mya i 20mya.
Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd hon gan Lywodraeth Cymru yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, ond yn hytrach yn gostwng y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya.
Pan gyhoeddwyd hyn, rhoddwyd rhestr o feini prawf i gynghorau lleol, a’r cyfle i edrych ar y ffyrdd yn eu sir i weld a oedd yna unrhyw rai’n addas i’w heithrio rhag y newid.
Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, fe gewch chi gyfle i leisio unrhyw wrthwynebiadau i’r eithriadau hyn fel rhan o gyfnod ymgynghori a fydd yn para 21 diwrnod. Cadwch lygad ar y blog hwn ac ar dudalennau Cyngor Wrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol i ganfod pryd y bydd yr ymgynghoriad yn dechrau.
Mae Cyngor Wrecsam wedi edrych ar y meini prawf ac wedi llunio rhestr o ffyrdd a fyddai’n cael eu heithrio. Mae’r ffyrdd hyn bellach i’w gweld ar wefan MapDataCymru Llywodraeth Cymru.
Nid oes rhaid i chi fewngofnodi i’r wefan i’w defnyddio, ac fe gewch chi weld pa ffyrdd sydd â gorchymyn eithrio (a fydd felly’n ffyrdd 30mya o 17 Medi ymlaen), pa ffyrdd sydd ar hyn o bryd yn rhai 30mya drwy Orchymyn ac sy’n cael eu gostwng i 20mya, a pha ffyrdd sydd ar hyn o bryd yn rhai 30mya ac a fydd yn parhau i fod yn 30mya.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae hwn yn newid a fydd yn effeithio pawb yn y fwrdeistref sirol, felly rwy’n eich annog i gael golwg ar wefan Llywodraeth Cymru i weld a oes yna unrhyw eithriadau i’r ffyrdd rydych chi’n eu defnyddio. Rydym wedi cael gwybod y bydd y cyfnod ymgynghori’n dechrau cyn bo hir ac fe fyddwn ni’n siŵr o roi gwybod i chi pan fydd ar agor i chi gael gwneud sylwadau.”
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.