Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen “Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn”
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > “Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn”
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

“Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn”

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2023 2:33 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
"Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn"
RHANNU

Mae ein grŵp o drochwyr llwyddiannus 2023/24 bellach yn cael eu rhyddhau mewn camau i addysg prif ffrwd ar ôl dod yn gwbl ddwyieithog mewn ychydig dros 12 mis!

Mae’r ddarpariaeth Drochi yn cefnogi plant o leoliadau cynradd cyfrwng Saesneg i drosglwyddo i leoliadau uwchradd cyfrwng Cymraeg drwy ddarparu cwrs pontio dwys yn ystod tymor yr haf ym mlwyddyn 6 tan ddiwedd blwyddyn 8.  Fodd bynnag, mae’r mwyafrif o ddisgyblion yn gallu dod yn gwbl rugl mewn oddeutu blwyddyn!

Dywedodd Nyla Pearson, disgybl Blwyddyn 7:  “Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn.”  Wnes i erioed ddychmygu y byddai hynny’n bosibl.  “Rwyf wir wedi mwynhau’r flwyddyn ddiwethaf, gwneud ffrindiau newydd, yr holl weithgareddau a gemau llawn hwyl ac rwy’n falch ac yn drist fod ein hamser yma yn dod i ben.” 

Bu i’r grŵp 2023-24 ddathlu eu llwyddiant gyda thaith ddiweddar i Glan-llyn yn ogystal â chael parti ffarwelio.

Dywedodd Dylan Pugh, disgybl Blwyddyn 8:  “Roedd y profiad a gawsom yng Nglan-llyn yn wych oherwydd roedd y staff yn garedig ac yn ein hannog gyda’n Cymraeg. “Roedd y gweithgareddau’n hwyl a chawsom y cyfle i gymysgu â myfyrwyr Trochi eraill o ysgolion eraill.”  

Mae’r tîm Trochi bellach yn paratoi at groesawu mewnlifiad newydd o fyfyrwyr sydd ag wythnosau cyffrous o’u blaen ar eu taith i ddysgu’r Gymraeg.  Gall y myfyrwyr edrych ymlaen at ymweld â Llaethdy Mynydd Mostyn, lle byddant yn dysgu am fywyd ar y fferm yn y Gymraeg, sesiynau pêl-droed (yn cynnwys sesiwn holi ac ateb gydag un o chwaraewyr pêl-droed Wrecsam, Lili Jones), gig a sesiwn holi ac ateb gyda’r gantores Megan Lee, yn ogystal â sesiwn podlediad, animeiddiad a gemau buarth.

Dywedodd Hannah Thomas, rhiant i fyfyriwr Blwyddyn 7 a Blwyddyn 6:  “Rwy’n falch fod fy mhlant wedi penderfynu cymryd rhan yn y cwrs Trochi yn Ysgol Morgan Llwyd, dechreuodd fy merch y llynedd ac mae fy mab wedi dechrau eleni. “Mae’r staff yn wych ac mae’r plant yn hapus iawn yn y dosbarth. “Nid ydynt yn ofn codi unrhyw bryderon neu broblemau sydd ganddynt ac mae’r athrawon bob amser yn gwneud yn siŵr fod pethau’n cael eu trin ac mae’r plant (a minnau) yn cael eu cefnogi, mae’r cyfathrebu gan y staff yn ardderchog.

“Mae pob dosbarth i’w weld wedi meithrin perthynas dda iawn ac mae fy mhlant eisoes wedi gwneud ffrindiau arbennig.

“Mae’r gyfradd y mae fy merch wedi dysgu sut i siarad Cymraeg yn wych ac er nad yw fy mab wedi bod ar y cwrs Trochi yn hir, mae ef a’i chwaer eisoes yn cael sgyrsiau yn y Gymraeg gartref.  “Mae’r cwrs wedi codi cymaint ar hyder fy merch ac mae hi wir yn mwynhau’r gwersi yn y grŵp Trochi.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chefnogwr y Gymraeg yng Nghyngor Wrecsam: “Nid yn unig yw bod neu ddod yn siaradwr Cymraeg yn cyfoethogi, ond mae hefyd yn agor drysau ac yn cynnig cyfleoedd. “Mae cyfle o hyd i fyfyrwyr ymuno â’r cynllun Trochi ar gyfer eleni, rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr hyn y maent newydd ei ddarllen i gysylltu â trochi@wrexham.gov.uk am fwy o wybodaeth.”

TAGGED:CymraegTrochiwrecsamwrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Climate Conversations Wrexham Sgyrsiau Carbon a Hinsawdd Wrecsam – dweud eich dweud!
Erthygl nesaf 20mph Y diweddaraf am y terfyn 20mya – pa ffyrdd fydd wedi’u heithrio

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English