Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y diweddaraf am y terfyn 20mya – pa ffyrdd fydd wedi’u heithrio
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y diweddaraf am y terfyn 20mya – pa ffyrdd fydd wedi’u heithrio
Pobl a lle

Y diweddaraf am y terfyn 20mya – pa ffyrdd fydd wedi’u heithrio

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 18, 2023 3:37 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
20mph
RHANNU

Ar 17 Medi eleni, bydd y terfyn cyflymder cenedlaethol diofyn ar ffyrdd preswyl a strydoedd prysur i gerddwyr yng Nghymru yn newid o 30mya i 20mya.

Ni fydd y ddeddfwriaeth newydd hon gan Lywodraeth Cymru yn gosod terfyn cyflymder cyffredinol ar bob ffordd, ond yn hytrach yn gostwng y terfyn cyflymder ar ffyrdd cyfyngedig i 20mya. 

Pan gyhoeddwyd hyn, rhoddwyd rhestr o feini prawf i gynghorau lleol, a’r cyfle i edrych ar y ffyrdd yn eu sir i weld a oedd yna unrhyw rai’n addas i’w heithrio rhag y newid.

Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, fe gewch chi gyfle i leisio unrhyw wrthwynebiadau i’r eithriadau hyn fel rhan o gyfnod ymgynghori a fydd yn para 21 diwrnod. Cadwch lygad ar y blog hwn ac ar dudalennau Cyngor Wrecsam ar y cyfryngau cymdeithasol i ganfod pryd y bydd yr ymgynghoriad yn dechrau.

Mae Cyngor Wrecsam wedi edrych ar y meini prawf ac wedi llunio rhestr o ffyrdd a fyddai’n cael eu heithrio. Mae’r ffyrdd hyn bellach i’w gweld ar wefan MapDataCymru Llywodraeth Cymru.

Nid oes rhaid i chi fewngofnodi i’r wefan i’w defnyddio, ac fe gewch chi weld pa ffyrdd sydd â gorchymyn eithrio (a fydd felly’n ffyrdd 30mya o 17 Medi ymlaen), pa ffyrdd sydd ar hyn o bryd yn rhai 30mya drwy Orchymyn ac sy’n cael eu gostwng i 20mya, a pha ffyrdd sydd ar hyn o bryd yn rhai 30mya ac a fydd yn parhau i fod yn 30mya.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd: “Mae hwn yn newid a fydd yn effeithio pawb yn y fwrdeistref sirol, felly rwy’n eich annog i gael golwg ar wefan Llywodraeth Cymru i weld a oes yna unrhyw eithriadau i’r ffyrdd rydych chi’n eu defnyddio. Rydym wedi cael gwybod y bydd y cyfnod ymgynghori’n dechrau cyn bo hir ac fe fyddwn ni’n siŵr o roi gwybod i chi pan fydd ar agor i chi gael gwneud sylwadau.”

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

Rhannu
Erthygl flaenorol "Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn" “Ni allaf gredu beth rydym wedi llwyddo i’w gyflawni mewn blwyddyn”
Erthygl nesaf Wrexham Acton Park Gorsedd Stones Dewch i fwynhau’r gwyllt a chefn gwlad yn ystod Wythnos Natur Cymru yn Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu
Y cyngor
Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lle Digwyddiadau Fideo
Hydref 20, 2026
Ty Pawb and Pittsburgh University
Wrecsam a Pittsburgh i gydweithio ar arddangosfa gelf ryngwladol newydd fawr
Pobl a lle
Hydref 12, 2026
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English