Erthygl Gwadd Yn sgil cyhoeddi Rhybudd Ambr Gwres Eithafol gan y Swyddfa Dywydd ar gyfer rhannau o Gymru a’r diffyg cyfnodau o law diweddar, mae’r Gwasanaethau Tân ac Achub yng Nghymru ac asianteithiau partneriaeth yn gofyn i bobl fod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau glaswellt a thanau eraill yn ystod y cyfnod hwn o dywydd sych a phoeth. Gwasanawth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Peter Greenslade, Cadeirydd Ymgyrch Dawns Glaw “Rydym ar hyn o bryd yn profi tywydd poeth a sych ac mae’r rhagolygon ar gyfer y penwythnos nesaf a’r wythnos nesaf yn rhagweld y bydd yn mynd yn boethach fyth. Rwy, felly, yn annog pobl i fod yn hynod ofalus a bod yn ymwybodol o’r risg uwch o danau glaswellt. Os ydych chi’n cynllunio barbeciw, rhaid i chi sicrhau bod y barbeciw yn cael ei osod ar arwyneb gwastad, fydd ddim yn mynd ar dân ei hun, ac ymhell i ffwrdd o sied, coed neu lwyni. Os ydych yn bwriadu llosgi sbwriel, ailystyriwch hyn. Meddyliwch, a allwch chi fynd ag ef i safle gwaredu gwastraff yr awdurdod lleol yn lle hynny? Mae’n anghyfreithlon llosgi glaswellt yr adeg hon o’r flwyddyn ac os byddwch yn dod ar draws rhywun yn llosgi glaswelltir gallwch roi gwybod amdanynt, yn ddienw, i Crimestoppers drwy ffonio 0800 555111, neu fynd i crimestoppers-uk.org. Os yw’n argyfwng, rhaid i chi bob amser ffonio 999. Gadewch i ni i gyd fwynhau’r tywydd godidog hwn yn gyfrifol ac yn ddiogel. Trwy ddilyn y cyngor uchod, byddwch yn lleihau’r risg o dân ac yn lleihau’r effaith ar ein criwiau tân, ein cymunedau a’r amgylchedd.” Dywedodd Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Am fwy o wybodaeth am sut i fwynhau’r awyr agored yn ddiogel ewch i https://www.tancgc.gov.uk/cym/diogelwch/eich-gardd-ar-awyr-agored/ |