Mae cymuned leol wedi dod at ei gilydd i helpu i dacluso eu hardal leol.
Cynhaliwyd diwrnod gweithredu amgylcheddol yn ddiweddar yn Smithfield ym Mharc Caia. Gwnaeth swyddfa Ystâd Caia Cyngor Wrecsam drefnu bod sgip enfawr yn cael ei osod ar yr ystâd ac roedd tenantiaid lleol yn gallu dod â sbwriel swmpus ac eitemau diangen allan.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Roedd swyddogion tai, gofalwyr a gweithredwyr Strydwedd y cyngor wrth law i helpu tenantiaid i gael gwared ar eu sbwriel.
Erbyn diwedd y digwyddiad, roedd y sgip wedi llenwi gyda phob math o eitemau o feiciau a chadeiriau i ficrodonnau a dodrefn.
Help llaw gan wirfoddolwyr lleol
Yn ffodus, roedd help llaw ychwanegol ar gael diolch i rai tenantiaid ac aelodau’r Rock Chapel gerllaw, a wirfoddolodd eu hamser i ddod i helpu.
Ar ôl y digwyddiad, cynigiwyd lluniaeth i’r gwirfoddolwyr a gyfrannwyd gan y Co-op lleol ac roedd ei angen yn fawr arnynt.
Digwyddiadau “mwyaf prysur erioed” a gynhaliwyd yr haf hwn
Dywedodd Cynghorydd lleol Smithfield, Cyng Adrienne Jeorrett, “Hoffwn ddiolch i staff swyddfa’r ystâd, Strydwedd, y Co-op a’r tenantiaid a gwirfoddolwyr o Rock Chapel am ddod at ei gilydd i helpu i dacluso ein hardal leol.
“Llwyddwyd i symud llawer iawn o sbwriel felly mae hyn yn amlwg wedi bod yn help mawr i lawer o denantiaid ac mae’n garedig iawn o’r rhai a fu’n cymryd rhan i fod wedi rhoi o’u hamser i helpu i wneud y digwyddiad hwn yn llwyddiant.”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Cynhelir digwyddiadau gweithredu amgylcheddol rheolaidd ar ystadau ar draws y fwrdeistref sirol. Rydym wedi gweld rhai o’r digwyddiadau prysuraf erioed mewn nifer o leoliadau yr haf hwn felly mae’n wych gweld eu bod yn parhau i fod yn boblogaidd iawn. Maen nhw’n rhoi gwasanaeth gwerthfawr i denantiaid drwy ganiatáu iddynt gael gwared ar eitemau sbwriel swmpus heb orfod teithio’n bell o’u cartrefi.”
Caiff gwybodaeth gyfredol am y digwyddiadau hyn ei rhoi ar dudalen Facebook Tai CBSW ar gyfer tenantiaid y cyngor.
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI