Mae gwaith i ddod a dwy ysgol at ei gilydd o dan un to ym Mhenycae yn carlamu yn ei flaen a dylai fod wedi’i gwblhau erbyn yr hydref.
Mae pedair ystafell ddosbarth yn cael eu hadeiladu ac mae hen adeilad yn cael ei adnewyddu er mwyn dod a’r ysgolion babanod ac iau at ei gilydd am y tro cyntaf
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae’r gwaith, sy’n costio £2 filiwn, yn cael ei wneud gan gwmni Reed Construction sydd ar hyn o bryd o fewn y gyllideb ac yn anelu at y targed i ddarfod y gwaith yn yr hydref eleni.
Cyfunwyd y ddwy ysgol yn 2008 ac maent yn rhannu un pennaeth ac un corff llywodraethol.
Meddai Cadeirydd y Llywodraethwyr, Cynghorydd Joan Lowe: “Mae’n gyfnod cyffrous dros ben i gymuned ysgol Penycae ac mae’r plant eisoes yn gwneud defnydd o’r ardal chwarae newydd, gyda’r ystafelloedd dosbarth newydd yn cael eu hadeiladu ar yr hen iard chwarae.
“Mae pawb yn gweithio’n galed, ac mae’n fusnes fel arfer yn yr ysgol wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen. Dros wyliau’r haf dylem weld mwy o gynnydd fyth ac mae pawb yn edrych ymlaen at gael bod gyda’i gilydd am y tro cyntaf.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae rhan am wneud i hyn ddigwydd ym Mhenycae.”
Noddwyd y gwaith gyda chyllid Ysgolion 21G Llywodraeth Cymru a nawdd cyfatebol gan Gyngor Wrecsam.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI