Mae’r strwythur wedi ei drawsnewid yn fawr dros y 18 mis diwethaf, gan ei droi o fod yn fonolith diflas o’r 1960au i adeilad modern llawn bywyd – yn addas ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus modern.
Yn gynharach heddiw (ddydd Mawrth, 15 Mawrth) agorwyd y swyddfeydd gan Faer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince, yn ogystal ag Arweinydd Cyngor Wrecsam, y Cynghorydd Mark Pritchard, a’r Prif Weithredwr, Ian Bancroft.
Mae’r agoriad yn cyd-daro â nifer o staff y cyngor yn dychwelyd yn raddol i’r swyddfa yn dilyn cyfnodau hirion o weithio gartref yn ystod y pandemig.
Ac yn ddiweddarach eleni, bydd Canolbwynt Lles Cymunedol newydd Wrecsam – sy’n cyfuno gwasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol a chefnogaeth y sector gwirfoddol, mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – hefyd yn agor ar y safle.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Ymgymerwyd â’r gwaith gan gwmni lleol, Reed Construction, gyda chymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru.
Lleihau ôl troed carbon
Dywed Maer Wrecsam, y Cynghorydd Ronnie Prince:
“Mae hwn wedi bod yn ddatblygiad anhygoel, sydd wedi rhoi bywyd newydd i adeilad a oedd wirioneddol angen ei foderneiddio.
“Mae bellach yn adeilad allweddol yng nghanol y dref, a bydd yn darparu safle ar gyfer staff gofal cymdeithasol, yn ogystal â lleoliad newydd ar gyfer Adran Addysg ac Ymyrraeth Gynnar y cyngor.”
Dywed y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Mae’r trawsnewid wedi bod yn anhygoel, ac mae gennym bellach leoliad gwaith sy’n addas ar gyfer cyflenwi gwasanaethau modern i bobl leol.
“Bydd tua 625 o staff yn defnyddio Adeiladau’r Goron fel safle, gan gynyddu nifer yr ymwelwyr i ganol y dref. Bydd y swyddfeydd yn cynnwys desgiau, ardaloedd trafod, fideogynadledda a chyfleusterau eraill a fydd yn darparu’r offer a’r amgylchedd sydd eu hangen ar y staff.”
“Rydym hefyd wedi gwella perfformiad ynni’r adeilad. Roedd hyn yn un o brif sbardunau’r cynllun o’r dechrau.”
Dywed Ian Bancroft, y Prif Weithredwr:
“Buom yn gweithio’n agos gyda’r contractwr i wella effeithlonrwydd thermol yr adeilad, ac rydym hefyd wedi defnyddio’r gofod yn y to i gadw paneli solar a fydd yn lleihau’r ôl troed carbon ymhellach.
“Mae gennym bellach adeilad sydd nid yn unig yn dda i’r gweithwyr a’r cymunedau’r ydym yn eu gwasanaethu, ond sydd hefyd yn well i’r amgylchedd.
“Mae’n bopeth y dylai lleoliad gwaith modern, hyblyg, fod.”
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH