Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ysgolion i dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn gweithdy lleihau carbon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Ysgolion i dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn gweithdy lleihau carbon
Y cyngor

Ysgolion i dderbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn gweithdy lleihau carbon

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 16, 2022 8:24 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Carbon Reduction
RHANNU

Rydym yn gweithio gyda Xplore! Canolfan Ddarganfod yng nghanol y dref i ddarparu gweithdai rhyngweithiol ac ymgysylltu ag ysgolion a anelwyd at blant CA2 yn y fwrdeistref sirol i’w haddysgu am newid hinsawdd  ac amlygu’r ffyrdd y gallant helpu i leihau ôl troed carbon.

Byddant yn cael eu cynnal yn y misoedd nesaf a gofynnir i’r sawl sy’n mynychu i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i greu cymeriad datgarboneiddio a all weld yr enillydd yn arweinydd amlwg ar gyfer gweithgareddau i gefnogi cymunedau lleol wrth iddynt ddechrau meddwl am sut y gallant leihau ôl troed carbon hefyd.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Fel diweddglo ar gyfer y gweithdai, bydd Xplore! yn cynnal 2 ddigwyddiad i blant o bob ysgol i ddathlu a rhannu beth mae pawb wedi’i ddysgu a chyflwyno cyfres o ddyluniadau cymeriad.

Yn ôl yn y Ganolfan Wyddoniaeth, bydd Xplore! yn gweithio gyda dylunwyr i ddatblygu arddangosfa ryngweithiol i gynnwys pawb mewn syniadau ar gyfer sut y gallwn i gyd wneud newidiadau.

Rydym yn edrych ar adeiladau a defnyddio llai o ynni, plannu mwy o goed a blodau gwyllt, ystyried sut rydym yn prynu’r pethau rydym eu hangen a ble rydym yn eu cael a gwneud mwy o’n siwrneiau mewn ffordd gynaliadwy ac egnïol.

“Mae gwaith lleihau carbon yn symud yn gyflym iawn”

Dywedodd y Cyng. David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, “Mae ein gwaith lleihau carbon yn symud yn gyflym iawn nawr ac mae cynnwys ysgolion yn ffordd ymlaen ardderchog.

“Mae newid hinsawdd  yn bryder gwirioneddol ac rydym yn edrych ar fod yn garbon niwtral erbyn 2030 er mwyn gadael ein pobl ifanc gyda dyfodol cynaliadwy y gellir ei reoli ac sy’n dda ar gyfer ein hamgylchedd a’r blaned.”

Dywedodd Katie Williams, Swyddog Datblygu Busnes ac Ymgysylltu â Rhanddeiliaid yn Xplore, “Rydym yn bendant wedi gweld mwy o awydd gan ysgolion am gynnwys ar newid hinsawdd felly mae’r gweithdai hyn yn derbyn ymateb da iawn.

“Bydd dysgwyr yn cael adeiladu eu Stryd Cynaliadwyedd eu hunain ble byddant yn dechrau deall goblygiadau rhai o’u dewisiadau bob dydd syml.

“Byddwn yn rhoi ein stamp unigryw ein hunain ar y cynnwys i’w wneud yn sesiwn hwyliog a rhyngweithiol yn defnyddio enghreifftiau addas i’r oedran, perthnasol ac ystyrlon o sut gall myfyrwyr leihau eu heffaith amgylcheddol eu hunain.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Crown buildings Y mae Cyngor Wrecsam wedi agor ei swyddfa newydd yn Adeiladau’r Goron yn swyddogol
Erthygl nesaf cosbi corfforol Stopio cosbi corfforol yng Nghymru

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English