Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y Maer yn gwahodd beicwyr “sbinio” i helpu i fynd i’r afael â her elusennol!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y Maer yn gwahodd beicwyr “sbinio” i helpu i fynd i’r afael â her elusennol!
Pobl a lleY cyngor

Y Maer yn gwahodd beicwyr “sbinio” i helpu i fynd i’r afael â her elusennol!

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 9, 2018 10:17 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Y Maer yn gwahodd beicwyr “sbinio” i helpu i fynd i’r afael â her elusennol!
RHANNU

Mae Maer Wrecsam yn chwilio am dîm o bedlwyr brwdfrydig i ymuno ag o mewn digwyddiad codi arian.

Ddydd Gwener, 20 Ebrill, bydd y Cynghorydd John Pritchard, Maer Wrecsam, yn arwain tîm o feicwyr “sbinio” mewn her elusennol pedair awr o hyd yng Nghanolfan Hamdden a Gweithgareddau Byd Dŵr Wrecsam, i godi cymaint o arian â phosibl i elusen.

Cynhelir yr her rhwng 1pm a 5pm.

Bydd Trevor Coxon, cyn Bennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Chwsmeriaid y Cyngor, yn ymuno yn y digwyddiad, ac mae’n feiciwr brwd a chodwr arian gwych ar gyfer Canser y Prostad.

Mae Amanda Roberts o Freedom Leisure hefyd wedi cytuno’n garedig i gymryd rhan yn y sbinio, a bydd Trevor ac Amanda yn ffurfio craidd tîm yr her.

Caiff yr arian a godir gan y sawl fydd yn sbinio ei rannu’n gyfartal rhwng elusennau o ddewis y Maer a Prostate Cancer UK.

“Rydyn ni am i gymaint o bobl â phosibl gymryd rhan”

Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: “Mae hwn yn argoeli i fod yn ddigwyddiad llawn hwyl, ac rydym am i gymaint o bobl â phosibl gymryd rhan mewn cymaint neu gyn lleied o’r her sbinio eu hunain, a chael nawdd am wneud hynny – neu noddi’r rhai a fydd yn gwneud. Does dim rhaid iddyn nhw fod yn feicwyr arbenigol, a gallant wneud cymaint neu gyn lleied ag y dymunant.

“Y peth pwysig yw y bydd ystod o achosion da yn elwa o’r digwyddiad hwn, felly rydym am godi cymaint o arian â phosibl.

“Hoffwn ddiolch i Freedom Leisure am gynnig defnyddio eu hystafell sbinio ffantastig yn stiwdio Myride y Ganolfan Byd Dŵr – heb os, bydd y llwybr rhithwir yn helpu i gymell y rhai sy’n codi arian i barhau i bedlo!”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen digwyddiadau Waterworld ar Facebook.

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon.. Cynlluniau ar ddangos ar gyfer dyfodol yr ystad dai hon..
Erthygl nesaf Sbwriel i’w gasglu ar hyd cefn ffordd Sbwriel i’w gasglu ar hyd cefn ffordd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

Hydref 22, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English