Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy
Gobeithio na fyddwch angen ei ddefnyddio, ond os yw eich noson yn mynd o chwith, mae rhywle i chi fynd am gymorth.
Hafan y Dref yw ganolfan les Wrecsam gyda gwirfoddolwyr o’r Groes Goch Brydeinig. Mae’n cynnig lle diogel i bobl sy’n teimlo’n ddiamddiffyn neu’n sâl ar noson allan yn y dref.
Wedi colli’ch ffrindiau? Dim batri ar ôl yn eich ffôn i’w ffonio nhw? Yn feddw gaib a dim ffordd adref?
Peidiwch â phoeni, mae’r ganolfan yma i’ch helpu chi.
Lle mae’r ganolfan?
Mae Hafan y Dref yn rhan o’r bloc toiledau ar waelod Town Hill – drws nesaf i faes parcio San Silyn. Mae’n hawdd dod o hyd iddi.
Mae 79% o bobl yn dod i mewn eu hunain. Dro arall mae staff drysau (7%), ffrindiau (4%), yr heddlu (4%) gweinidogion stryd (3%) ac ati, yn helpu pobl i mewn.
Mae staff drysau a gweithredwyr TCC hefyd yn gallu gwneud galwad radio am gymorth os oes unrhyw ddigwyddiad.
Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth brysbennu a chymorth cyntaf brys os ydych chi wedi brifo neu’n dioddef ar ôl yfed gormod. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol os ydych chi’n teimlo’n agored i niwed.
Ond, yn fwy na dim, ’dydyn nhw ddim yn beirniadu. Os oes arnoch chi angen help, byddan nhw yno i’ch helpu.
Agorwyd Hafan y Dref ym mis Rhagfyr 2015, ac erbyn mis Tachwedd eleni, maent wedi helpu dros 12,000 o bobl yn 2018.
Sefyllfaoedd Peryglus
Meddai Michelle McBurnie, o’r Groes Goch Brydeinig: “Rydw i’n gweithio yn Hafan y Dref yn rheolaidd.
“Dwi’n cofio un noson cafodd y tîm ei alw gan staff drws i ymateb i ddyn a oedd yn anymwybodol ar y palmant gyferbyn â’u heiddo.
“Ar ôl i ni gyrraedd roedd ei bartner ar y ffôn yn galw am gymorth gan y gwasanaeth ambiwlans.
“Roedd yn amlwg nad oedd yn sâl ond, yn hytrach, wedi meddwi. Bu i’r gwirfoddolwyr ganslo’r ambiwlans a’i helpu i’r ganolfan les lle cafwyd gafael ar ei fam i ddod i’w nôl.
“Drwy yfed llai ar eich noson allan, fe allwch chi atal eich hun rhag mynd i sefyllfaoedd peryglus yn nes ymlaen.”
Yn aml iawn mae pobl yn dod i’r ganolfan i gael ychydig o ‘seibiant’. Maen nhw’n cael paned neu’n eistedd i lawr, neu’n gwella ar ôl yfed gormod.
Mae rhan fwyaf o’r achosion yn ymwneud ag alcohol. Wedi dweud hynny, mae’r staff yn darparu cefnogaeth a chyngor i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl hefyd.
Mae’r ganolfan yn canolbwyntio ar ddarparu ‘buddion cymdeithasol’, gyda phobl yn derbyn cefnogaeth pan fydd arnyn nhw ei hangen, a negeseuon iechyd y cyhoedd yn cael eu lledaenu. Mae 96% o’r bobl sydd wedi derbyn cefnogaeth gan y ganolfan yn gallu mynd ymlaen i fwynhau gweddill eu noson.
Noson allan ddiogel a llawn hwyl
Mae gwirfoddolwyr y ganolfan yn gweithio gyda llawer o sefydliadau gwahanol fel Cyngor Wrecsam, gweinidogion stryd Wrecsam, busnesau lleol, yr heddlu a’r gwasanaethau iechyd.
Maen nhw’n helpu i wneud yn siŵr bod pobl yn manteisio ar fywyd nos Wrecsam ac yn cael noson allan ddiogel a llawn hwyl.
Mae Cyngor Wrecsam a’i bartneriaid yn hyrwyddo ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, er mwyn annog pobl ifanc i edrych ar ôl eu hunain drwy yfed llai cyn mynd allan… yn ogystal â chadw cyfrif o faint maen nhw’n yfed unwaith maen nhw’n cyrraedd clybiau a thafarndai Wrecsam.
Mae’n wir, wrth yfed llai – a gwybod lle mae’ch terfynau – fe allwch chi gael noson allan lawer iawn gwell.
Mae Hafan y Dref ar agor o 10.30pm tan 4.30am ddydd Sadwrn, ac mae sifftiau ychwanegol dros y Nadolig a’r Pasg.
56 o alwadau am ambiwlans wedi cael eu canslo…
Mae’r ganolfan wedi ei hariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Eleni, hyd yma, mae 56 ambiwlans wedi cael eu canslo diolch i’r ganolfan, drwy ddod o hyd i ddewisiadau mwy priodol i alwadau 999.
I gael rhagor o wybodaeth am ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy, cliciwch yma.
DWI ISIO MYNEGI FY MARN
DOES DIM OTS GEN I