Mae’r Prif Weinidog wedi nodi ei gynlluniau i Gymru symud i Lefel Rhybudd 0 drwy ymlacio rhai, ond nid pob un, o’r cyfyngiadau sydd mewn grym i atal lledaeniad Covid-19.
Mae’r rhain yn dilyn cynlluniau a amlinellwyd yn ddiweddarach yr wythnos hon gan Lywodraeth y DU, ac a fydd mewn grym yn Lloegr yn unig.
Newidiadau o 17 Gorffennaf
Yng Nghymru, bydd rhai newidiadau yn dod i rym ar 17 Gorffennaf, ac mae’r rhain yn golygu:
- y bydd hyd at chwe pherson yn gallu cwrdd dan do mewn cartrefi preifat ac mewn llety gwyliau
- bydd modd cynnal digwyddiadau dan do wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 1,000 o bobl yn eistedd, a hyd at 200 yn sefyll
- gall canolfannau sglefrio ail-agor
Mae gofynion cadw pellter cymdeithasol a’r rheol ynghylch masgiau yn aros yr un fath.
O 19 Gorffennaf ni fydd raid i bobl sydd wedi eu brechu’n llawn ac sydd yn dychwelyd o wledydd rhestr oren fod dan gwarantin.
Bydd y newidiadau yn cael eu hadolygu ac mae’n bosib y cyflwynir newidiadau pellach o 7 Awst.
Newidiadau arfaethedig o 7 Awst
Os yw popeth yn mynd yn iawn yng Nghymru byddwn yn symud i lefel rhybudd Sero o 7 Awst pan:
• bydd pob safle yn gallu agor a bydd y rhan fwyaf ond nid pob cyfyngiad yn cael eu codi.
• na fydd cyfyngiadau ar nifer y bobl sydd yn cael cwrdd dan do gan gynnwys mewn cartrefi preifat
• bydd yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i wisgo masg wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill dan do, heblaw am leoliadau lletygarwch fel tafarndai a thai bwyta
Mae’n bosib y bydd cyfyngiadau ar niferoedd mewn rhai lleoliadau oherwydd peryglon sydd wedi eu hadnabod drwy asesiad risg, a fydd yn ofynnol ar gyfer pob safle.
Bydd hyblygrwydd o ran cadw pellter cymdeithasol, ond bydd y gofyniad i ddefnyddio masg wyneb dan do heblaw am leoliadau lletygarwch megis tafarndai, tai bwyta a chaffis, yn aros yn ei le.
Daw’r newidiadau yn dilyn llwyddiant y rhaglen frechu sydd wedi gwanhau, ond heb dorri’r cysylltiad rhwng heintiau, salwch difrifol a chyfnodau yn yr ysbyty.
Dywed y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Er ein bod ni’n croesawu llacio rhai o’r cyfyngiadau yr ydym ni gyd wedi bod yn byw oddi tanynt, mae’r perygl o niwed yn parhau i fod gyda ni ac mae rhai pobl ifanc, iach yn dioddef effeithiau Covid hir sydd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
“Mae amrywiolyn Delta yn gyfrifol am nifer gynyddol uchel o achosion positif ond diolch i’r drefn, mae niferoedd y rhai hynny sy’n dioddef salwch difrïol o’r haint yn parhau’n isel gyda derbyniadau i’r ysbyty hefyd yn parhau’n isel.
“Rydym am iddi barhau fel hyn, wrth inni symud drwy fisoedd yr haf ac rwy’n annog pawb i barhau i fod yn wyliadwrus ac os nad ydych chi eisoes wedi cael y brechlyn, a wnewch chi drefnu gwneud hynny cyn gynted ag y bo modd.”
Gofynnir hefyd i bawb parchu staff sydd yn gweithio yn y diwydiannau twristiaeth, lletygarwch a hamdden sydd yn parhau i wneud eu gorau i edrych ar ôl iechyd a lles y bobl maen nhw’n gweithio iddyn nhw a gyda nhw.
Diolch yn fawr.
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN