Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy
Cymerwch gip ar y rhai sy’n gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr bod eich noson allan yn Wrecsam yn un ddiogel.
Bugeiliaid Stryd
Gan weithioi dawelu meddyliau, mae bugeiliaid stryd yn gwrando a siarad â phobl, yn darparu gwybodaeth ar asiantaethau lleol ac yn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae cymorth ymarferol sy’n cael ei roi gan fugeiliaid stryd yn cynnwys rhoi blancedi, fflip fflops i bobl sy’n methu cerdded adref yn eu hesgidiau sodlau uchel, rhoi dŵr, siocled neu fferins i roi egni a sicrhau bod unrhyw un sy’n teimlo’n agored i niwed yn ddiogel. Maent yn cael gwared â photeli ac arfau posibl eraill sydd ar y stryd, er mwyn ceisio atal trais a fandaliaeth.
Michelle McBurnie
Hafan y Dref yw canolfan les Wrecsam ac mae gwirfoddolwyr o’r Groes Goch Brydeinig yno i’ch helpu.Mae’n cynnig lle diogel i bobl sy’n teimlo’n agored i niwed neu’n sâl ar noson allan yn y dref.
Mae Michelle McBurnie yn un o swyddogion cymorth y Groes Goch Brydeinig sy’n gweithio yn y ganolfan.Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth brysbennu a chymorth cyntaf brys os ydych chi wedi brifo neu’n dioddef ar ôl yfed gormod. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol os ydych chi’n teimlo’n agored i niwed.Ond, yn fwy na dim, ’dydyn nhw ddim yn beirniadu.Os oes arnoch chi angen help, byddan nhw yno i’ch helpu.Gallwch ddod o hyd i’r Ganolfan Les yn rhan o’r bloc toiledau ar waelod Allt y Dref – gyferbyn â chlwb nos ‘South’.Mae’n hawdd dod o hyd iddi.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.
Alex Jones, perchennog y Bank, Voodoo Moon a South
Enillodd y Bank y wobr Braf Bob Nos gyffredinol.Mae Braf Bob Nos yn gynllun cenedlaethol sy’n ceisio lleihau digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol a thrais ledled y DU drwy godi safonau eiddo trwyddedig a meithrin cysylltiadau cadarnhaol gyda busnesau a rheoleiddwyr.Gall safleoedd gael gwobrau efydd, arian ac aur.
Gall y safle arddangos y wobr Braf Bob Nos un ai y tu allan neu y tu mewn i’r safle, a fydd yn nodi bod y rhai sy’n dal y drwydded yn gyfrifol ac yn gwerthfawrogi eu cwsmeriaid, ac am gynnig noson allan ddiogel.
Chris Harland & Stephanie Connelly yn y Nags Head
Enillodd y Nags Head wobr y Dafarn Orau yng Ngwobrau Braf Bob Nos.Yn Wrecsam, fe gymerodd 22 o’r 28 o safleoedd sydd wedi’u trwyddedu ran yn y cynllun Braf Bob Nos.
Mae deiliaid trwydded a goruchwylwyr drysau wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant i’w hatgoffa ei bod yn anghyfreithlon gwerthu i bobl sy’n amlwg wedi meddwi ac i godi ymwybyddiaeth o ba mor agored i niwed y gall pobl fod, drwy bethau fel lladradau neu drais os ydynt yn yfed gormod.
Swyddog yr Heddlu
Nid yw’r economi gyda’r nos yn Wrecsam yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi, annog nac yn caniatáu ymddygiad meddw.Mae Heddlu Gogledd Cymru’n gweithio’n galed i leihau ymosodiadau treisgar/rhywiol dan ddylanwad alcohol a sicrhau bod pawb yn cael noson allan dda a diogel.
Staff Drws
Mae staff ar y drws yn gweithio gyda’r holl bartneriaid i sicrhau bod Wrecsam yn lle diogel a braf i fynd ar noson allan.Maent yn gweithio’n agos gyda’r gwirfoddolwyr yn y Ganolfan Les a Bugeiliaid Stryd i helpu pobl sydd efallai wedi cael gormod i’w yfed.Maen nhw hefyd yn helpu i orfodi’r gyfraith drwy beidio â gadael pobl sy’n rhy feddw i mewn i safleoedd trwyddedig.
Mae Cyngor Wrecsam wedi ymuno â Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y Bwrdd Cynllunio Ardal, Prifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria i weithredu’r ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy.Os hoffech chi ddarllen mwy am yr ymgyrch a sut mae’r holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd, cliciwch yma.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan
COFIWCH EICH BINIAU