Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 8-9 Ionawr
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn…
Pobl a lleY cyngor

Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn…

Diweddarwyd diwethaf: 2017/12/21 at 11:14 PM
Rhannu
Darllen 5 funud
Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn...
RHANNU
Yfed Llai Mwynhau MwyYsgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy

Cymerwch gip ar y rhai sy’n gweithio’n ddiflino i wneud yn siŵr bod eich noson allan yn Wrecsam yn un ddiogel.

Cynnwys
Ysgrifennwyd yr erthygl hon fel rhan o gyfres o negeseuon am yr ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwyBugeiliaid Stryd Michelle McBurnieAlex Jones, perchennog y Bank, Voodoo Moon a South Chris Harland & Stephanie Connelly yn y Nags HeadSwyddog yr Heddlu Staff Drws

Bugeiliaid Stryd Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn...

Gan weithioi dawelu meddyliau, mae bugeiliaid stryd yn gwrando a siarad â phobl, yn darparu gwybodaeth ar asiantaethau lleol ac yn ceisio atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Mae cymorth ymarferol sy’n cael ei roi gan fugeiliaid stryd yn cynnwys rhoi blancedi, fflip fflops i bobl sy’n methu cerdded adref yn eu hesgidiau sodlau uchel, rhoi dŵr, siocled neu fferins i roi egni a sicrhau bod unrhyw un sy’n teimlo’n agored i niwed yn ddiogel. Maent yn cael gwared â photeli ac arfau posibl eraill sydd ar y stryd, er mwyn ceisio atal trais a fandaliaeth.

Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn...Michelle McBurnie

Hafan y Dref yw canolfan les Wrecsam ac mae gwirfoddolwyr o’r Groes Goch Brydeinig yno i’ch helpu.Mae’n cynnig lle diogel i bobl sy’n teimlo’n agored i niwed neu’n sâl ar noson allan yn y dref.

Mae Michelle McBurnie yn un o swyddogion cymorth y Groes Goch Brydeinig sy’n gweithio yn y ganolfan.Mae’r ganolfan yn cynnig gwasanaeth brysbennu a chymorth cyntaf brys os ydych chi wedi brifo neu’n dioddef ar ôl yfed gormod. Mae’r gwirfoddolwyr hefyd yn cynnig cefnogaeth emosiynol ac ymarferol os ydych chi’n teimlo’n agored i niwed.Ond, yn fwy na dim, ’dydyn nhw ddim yn beirniadu.Os oes arnoch chi angen help, byddan nhw yno i’ch helpu.Gallwch ddod o hyd i’r Ganolfan Les yn rhan o’r bloc toiledau ar waelod Allt y Dref – gyferbyn â chlwb nos ‘South’.Mae’n hawdd dod o hyd iddi.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM WYTHNOSOL RŴAN.

Alex Jones, perchennog y Bank, Voodoo Moon a South
Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn...

Enillodd y Bank y wobr Braf Bob Nos gyffredinol.Mae Braf Bob Nos yn gynllun cenedlaethol sy’n ceisio lleihau digwyddiadau sy’n gysylltiedig ag alcohol a thrais ledled y DU drwy godi safonau eiddo trwyddedig a meithrin cysylltiadau cadarnhaol gyda busnesau a rheoleiddwyr.Gall safleoedd gael gwobrau efydd, arian ac aur.

Gall y safle arddangos y wobr Braf Bob Nos un ai y tu allan neu y tu mewn i’r safle, a fydd yn nodi bod y rhai sy’n dal y drwydded yn gyfrifol ac yn gwerthfawrogi eu cwsmeriaid, ac am gynnig noson allan ddiogel.

Chris Harland & Stephanie Connelly yn y Nags Head

Y rhai sy’n helpu i’ch cadw chi’n ddiogel ar noson allan y ’Dolig hwn...

Enillodd y Nags Head wobr y Dafarn Orau yng Ngwobrau Braf Bob Nos.Yn Wrecsam, fe gymerodd 22 o’r 28 o safleoedd sydd wedi’u trwyddedu ran yn y cynllun Braf Bob Nos.

Mae deiliaid trwydded a goruchwylwyr drysau wedi cymryd rhan mewn hyfforddiant i’w hatgoffa ei bod yn anghyfreithlon gwerthu i bobl sy’n amlwg wedi meddwi ac i godi ymwybyddiaeth o ba mor agored i niwed y gall pobl fod, drwy bethau fel lladradau neu drais os ydynt yn yfed gormod.

 

Swyddog yr Heddlu

Nid yw’r economi gyda’r nos yn Wrecsam yn darparu amgylchedd sy’n cefnogi, annog nac yn caniatáu ymddygiad meddw.Mae Heddlu Gogledd Cymru’n gweithio’n galed i leihau ymosodiadau treisgar/rhywiol dan ddylanwad alcohol a sicrhau bod pawb yn cael noson allan dda a diogel.

Staff Drws

Mae staff ar y drws yn gweithio gyda’r holl bartneriaid i sicrhau bod Wrecsam yn lle diogel a braf i fynd ar noson allan.Maent yn gweithio’n agos gyda’r gwirfoddolwyr yn y Ganolfan Les a Bugeiliaid Stryd i helpu pobl sydd efallai wedi cael gormod i’w yfed.Maen nhw hefyd yn helpu i orfodi’r gyfraith drwy beidio â gadael pobl sy’n rhy feddw i mewn i safleoedd trwyddedig.

Mae Cyngor Wrecsam wedi ymuno â Heddlu Gogledd Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), y Bwrdd Cynllunio Ardal, Prifysgol Glyndŵr a Choleg Cambria i weithredu’r ymgyrch #YfedLlaiMwynhauMwy.Os hoffech chi ddarllen mwy am yr ymgyrch a sut mae’r holl bartneriaid yn gweithio gyda’i gilydd, cliciwch yma.

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol CERFLUNYDD RHEW O WRECSAM YN RHYFEDDU’R DORF CERFLUNYDD RHEW O WRECSAM YN RHYFEDDU’R DORF
Erthygl nesaf sprouts Ychydig o ysgewyll dros ben y Nadolig hwn? Bydd eich cadi bwyd wrth ei fodd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd - sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Ysgolion cynradd Penygelli a Maes y Mynydd – sesiynau galw heibio ar gyfer ymgynghori
Busnes ac addysg Ionawr 9, 2026
Winter weather
Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26
Arall Y cyngor Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 8, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
wellbeing hub
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Mae Hwb Lles Wrecsam yn cynnig lle cynhwysol ar gyfer partneriaeth Mannau Cynnes

Ionawr 8, 2026
Unpaid carers in Wrexham invited to apply for short breaks grants
Pobl a lleY cyngor

Gwahodd gofalwyr di-dâl yn Wrecsam i wneud cais am grantiau seibiannau byr

Ionawr 8, 2026
Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lle

Busnesau Gogledd Cymru yn cael eu hannog i archebu lle mewn digwyddiad atal trosedd yn Wrecsam

Ionawr 8, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English