Atgoffir gyrwyr ledled Gogledd Cymru nad oes prinder tanwydd ac nad oes angen prynu mewn panig.
Mae cynrychiolwyr yr holl wasanaethau brys, awdurdodau lleol, darparwyr iechyd ac asiantau allweddol eraill ledled y rhanbarth wedi cyfarfod i adolygu effaith y prynu mewn panig ar ddarpariaeth gwasanaeth hanfodol i gymunedau lleol.
Mae pryderon ynghylch diffyg tanwydd wedi arwain at gynnydd yn nifer y modurwyr sy’n ymweld â gorsafoedd tanwydd. Mewn rhai lleoedd mae hyn wedi achosi ciwiau a thagfeydd ar y ffyrdd, sy’n achosi oedi i ddefnyddwyr ffyrdd eraill a gallai hefyd effeithio ar wasanaethau brys a hanfodol.
Mae gan bob gwasanaeth allweddol drefniadau i ddelio gyda diffyg tannwyd ac ar hyn o bryd nid yw’r sefyllfa’n effeithio ar sut mae asiantau ar draws Gogledd Cymru yn darparu gwasanaethau i gymunedau lleol. Fodd bynnag gofynnwn i bobl fod yn synhwyrol a pheidio â mynd i banig wrth brynu.”
Mae Awdurdodau Lleol hefyd wedi clywed ynghylch gweithwyr gofal yn cael eu cam-drin yn eiriol mewn gorsafoedd tanwydd.
Dywedodd yr uwch-arolygydd Mark Williams: “Er nad ydym wedi cael adroddiadau swyddogol o hyn, rydym yn ymwybodol fod rhai gweithwyr allweddol wedi cael eu cam- drin yn eiriol. Mae hyn yn hollol annerbyniol a hoffwn apelio i bobl i fod yn amyneddgar ac yn ystyriol. Os ydych mewn gorsaf danwydd ac yn gweld gweithwyr y gwasanaethau brys neu ofal yn aros i brynu tanwydd, dylech ystyried gadael iddynt gymryd tanwydd yn gyntaf er mwyn iddynt barhau i gadw’r gymuned yn ddiogel ac ymateb i argyfyngau”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN