Dros y blynyddoedd diwethaf mae ein coblynnod wedi bod ar daith o amgylch y sir yn chwilio am anturiaethau Nadoligaidd yr ydym yn eu rhannu fel calendr adfent ar-lein ar ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.
Wedi’i drefnu gan ein tîm cymorth chwarae ac ieuenctid, y nod yw lledaenu ychydig o llon Nadolig ac ysbrydoli teuluoedd Wrecsam i ymweld neu gymryd rhan mewn gweithgareddau Nadoligaidd sydd naill ai’n rhad neu am ddim.
Fydd eleni ddim gwahanol gyda Chwarae a Llawen yn teithio o amgylch y rhanbarth yn chwilio am antur!
Byddwn yn rhannu eu hanturiaethau o 1 Rhagfyr hyd at y Nadolig.
O bosib o ganlyniad i gyffro eu hanturiaethau mae cymysgu wedi golygu bod Chwarae a Llawen wedi gorffen yn Wroxham yn lle Wrecsam!
Diolch byth, mae staff Wroxham Barns yn gofalu amdanynt a byddant yn sicrhau eu bod yn cyrraedd Wrecsam mewn pryd!