Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ychydig o gyngor gan Safonau Masnach Wrecsam y Nadolig hwn
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ychydig o gyngor gan Safonau Masnach Wrecsam y Nadolig hwn
Arall

Ychydig o gyngor gan Safonau Masnach Wrecsam y Nadolig hwn

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 19, 2019 2:38 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ch
RHANNU

Dyma ychydig o gyngor gan Safonau Masnach Wrecsam i’ch helpu chi gadw’n saff y Nadolig hwn a’r flwyddyn newydd:

Rydym ni i gyd wedi clywed yr ymadrodd, os ydi rhywbeth yn rhy dda i fod yn wir yna, gan amlaf, mae o.

Gallwch ddefnyddio’r ymadrodd hwn ar gyfer bron bob dim yn eich cartref; y galwadau digroeso, llythyrau yn dweud eich bod wedi ennill cystadleuaeth, taflenni drwy’r drws a galwyr digroeso.

Yn anffodus, mae yna droseddwyr carreg drws yn targedu preswylwyr Wrecsam. Efallai eu bod wedi galw heibio i’ch tŷ chi neu dŷ eich cymydog, neu wedi bod yn postio taflenni drwy ddrysau pawb ar eich stryd… a thaflenni fel arfer ydi’r cam cyntaf.

Efallai eu bod nhw’n honni bod ganddyn nhw gynigion arbennig; ‘cofrestrwch rŵan i dderbyn y fargen orau’, ‘gostyngiadau i bobl hŷn gyda’r daflen hon’, ‘cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod’… ond, da chi, peidiwch â chael eich twyllo gan y cynigion hyn.

PEIDIWCH Â GADAEL I DWYLLWYR EICH SGAMIO! COFRESTRWCH I GAEL CYNGOR A RHYBUDDION AR SGAMIAU YN EICH ARDAL CHI

Mae’n rhaid i fasnachwyr, yn ôl y gyfraith, roi gwybodaeth ysgrifenedig i chi ynglŷn â’ch hawl gyfreithiol i gyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod, ac mae’n rhaid i unrhyw gontract neu ddyfynbris fod yn ysgrifenedig. Mae’r gyfraith yno i amddiffyn perchnogion tai rhag cytuno â gwaith diangen neu ddrud heb gael amser i feddwl amdano.

Peidiwch byth ag ildio’ch hawliau. Efallai y bydd rhai masnachwyr yn gofyn i chi lofnodi rhywbeth er mwyn iddyn nhw ddechrau’r gwaith cyn diwedd y cyfnod ailfeddwl o 14 diwrnod. Gofynnwch i chi’ch hun “pam eu bod nhw’n gofyn i mi lofnodi i ildio fy hawliau? A fyddai masnachwr gonest yn gofyn i mi wneud hyn?” Yr ateb ydi NA FYDDAI!

Yn y taflenni hyn mae llawer o fasnachwyr yn honni eu bod yn gallu gwneud pob mathau o waith arbenigol, o aildoi a glanhau cwteri a rhodfeydd i osod patios a hyd yn oed gwaith garddio a thorri coed. Wil bob crefft, a dim clem!

Bydd rhai taflenni yn cynnwys logos sy’n debyg iawn i logos sefydliadau masnachu parchus. Ond, y cwbl ‘di’r logos hyn ydi cyfeiriadur o wybodaeth wedi’i thalu amdani gan y masnachwr. Dydyn nhw ddim yn gymeradwyaeth o allu nac ychwaith yn dangos bod y masnachwr wedi’i archwilio.

Ein cyngor ni ydi rhoi’r taflenni hyn yn syth yn eich blwch ailgylchu. Peidiwch byth â chysylltu â’r masnachwr. Defnyddiwch grefftwyr sydd ag enw da ac sydd wedi’u hargymell i chi.

Gall dilyn y cyngor syml yma eich helpu chi i gadw’n saff rhag unrhyw dwyll. Cofiwch hefyd ofalu am eich ffrindiau, perthnasau a’ch cymdogion a all fod yn ddiamddiffyn i’r math yma o dwyll.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi, gan obeithio y cewch chi lonydd gan y masnachwyr twyllodrus yma!

Am ragor o wybodaeth neu i roi gwybod am unrhyw fater, cysylltwch â Safonau Masnach ar tradstand@wrexham.gov.uk

Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw beth amheus, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 neu Heddlu Gogledd Cymru ar 101.

Os hoffech chi gwyno neu dderbyn cyngor am nwyddau neu wasanaethau rydych chi wedi’u prynu, cysylltwch â Gwasanaethau Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505.

Cadwch yn ddiogel rhag twyllwyr gyda’n rhybuddion!

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”] Cofrestrwch i gael rhybuddion am sgamiau yma! [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Awgrymiadau Gwych am Noson Allan Arbennig yn Wrecsam dros y Nadolig yma Awgrymiadau Gwych am Noson Allan Arbennig yn Wrecsam dros y Nadolig yma
Erthygl nesaf Ian Bancroft Wrexham Council Adroddiad Estyn – Neges gan ein Prif Weithredwr, Ian Bancroft

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr

Awst 20, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English