Os ydych chi angen bin neu flwch ailgylchu newydd, efallai bod archebu un yn llawer haws na’r hyn oeddech chi’n ei feddwl.
Mae gennym ffurflen fer iawn sydd angen i chi ei llenwi. Dim ond dau funud mae’n cymryd – rhowch y manylion i ni a gallwn gychwyn paratoi yr un newydd i’w anfon allan.
Os ydych chi’n rhoi gwybod am fin diffygiol, efallai y bydd modd i ni ei drwsio ar eich diwrnod casglu nesaf, yn dibynnu wrth gwrs ar y math o ddifrod.
Os ydi eich bin ar goll neu wedi cael ei ddwyn, neu os oes angen i chi archebu un newydd i’ch eiddo, gallwch ddilyn y cyfarwyddiadau i dalu (cost bin gwastraff cyffredinol yw £59, a chost bin gwastraff gardd yw £17).
Gellir archebu blychau ailgylchu newydd (blwch du, blwch gwyrdd, cadi bwyd ymyl ffordd, cadi bwyd cegin, bag gwyrdd) yn rhad ac am ddim. Yn syml, llenwch y manylion ac fe wnawn ni brosesu eich archeb.
Byddwn yn ceisio danfon y bocsys newydd cyn gynted â phosibl, ond mae’r amser yn amrywio. Yr amser presennol a amcangyfrifir ar gyfer cyflenwadau yw oddeutu 1-2 wythnos. Os bydd rhaid i ni archebu mwy o stoc cyn prosesu eich archeb, byddwch yn derbyn e-bost gennym ni.
Dewch i nôl bagiau bin bwyd a sachau glas o dros 40 lleoliad yn Wrecsam
Wyddoch chi fod modd cael eich bagiau bin bwyd a sachau glas newydd am ddim o amryw leoliadau yn Wrecsam, gan gynnwys nifer o siopau cyfleus, swyddfeydd ystadau, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu?
Mae’r bagiau bin bwyd (ar gyfer ailgylchu gwastraff bwyd) a sachau (ar gyfer ailgylchu cardfwrdd a phapur) ar gael am ddim o dros 40 lleoliad ar draws y fwrdeistref sirol, wrth i ni geisio ei gwneud hi’n haws i breswylwyr ailgylchu yn Wrecsam.
Felly gallwch alw i mewn i un o’r lleoliadau yn lleol i chi a chasglu’r eitemau am ddim pan fyddwch eu hangen.
Ffyrdd eraill o gael gafael ar fagiau bin bwyd a sachau glas
Peidiwch ag anghofio y gallwch barhau i gael eich bagiau bin bwyd am ddim drwy glymu bag bin bwyd gwag i handlen eich bin bwyd ar ddiwrnod casglu a bydd y criw ailgylchu yn gadael rholyn newydd i chi.
Mae’r criwiau ailgylchu yn cario sachau glas ar eu cerbydau hefyd rhag ofn bod rhywun angen un, felly gallwch ofyn i un o’r tîm am sach newydd y tro nesaf y byddan nhw’n casglu o’ch stryd.
I gael mwy o wybodaeth am ailgylchu yn Wrecsam, ewch i wrecsam.gov.uk/ailgylchu
HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI