Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi erioed wedi ystyried pwy yn wir a adeiladodd y Draphont Ddŵr?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi erioed wedi ystyried pwy yn wir a adeiladodd y Draphont Ddŵr?
ArallPobl a lle

Ydych chi erioed wedi ystyried pwy yn wir a adeiladodd y Draphont Ddŵr?

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 15, 2018 12:05 pm
Rhannu
Darllen 9 funud
Ydych chi erioed wedi ystyried pwy yn wir a adeiladodd y Draphont Ddŵr?
RHANNU

Gadewch i ni fod yn onest – mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn anhygoel. Mae’n siŵr eich bod wedi ei hedmygu o bellter…mae’n olygfa wirioneddol anhygoel!

Cynnwys
  • Thomas Telford
  • William Turner
  • William Jessop
  • William Hazeldine
  • ‘Y brêns’…

Ar 26 Tachwedd 1805 yr agorwyd yr orchest beirianyddol anhygoel hon.

Ond bu dyfalu mawr am ‘pwy oedd yn wirioneddol gyfrifol am y strwythur anferth sy’n 1,007 troedfedd o hyd, pwy oedd y ‘brêns’. Ymddengys y gellir dod a’r rhestr fer i lawr i bedwar o bobl.

Fe geisiwn ni ddatrys y dirgelwch… neu o leiaf geisio datgelu beth wnaeth pob unigolyn ei gyfrannu i’r prosiect enfawr hwn.

Yr enw cyntaf ar ein rhestr yw Thomas Telford. Fe edrychwn ar rôl Mr Telford a cheisio darganfod ai fo oedd yr ‘ymennydd’ y tu ôl i’r draphont ddŵr.

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Thomas Telford

Unwaith y penderfynwyd adeiladu’r draphont ddŵr yn yr 1790au, ysgrifennodd Thomas Telford at gwmni’r gamlas, gan gynnig ei hun fel “asiant cyffredinol, syrfëwr, peiriannydd, pensaer a goruchwyliwr y gamlas.” Y dyddiau hyn, bydd ‘prif weithredwr’ wedi bod yn ddigon 😉

Roedd ganddo gefndir cryf fel saer maen, pensaer a pheiriannydd, ac roedd y pwyllgor mor falch nes iddynt dderbyn ei gynnig.

Roedd William Tuner yn hynod o siomedig gyda’r penderfyniad hwn (fe eglurwn ni amdano fo yn ddiweddarach), gan ei fod wedi cymryd yn ganiataol y byddai’n cael y swydd ei hun. Roedd William Jessop, oedd hefyd wedi ei gydnabod fel ‘peiriannydd camlas mwyaf profiadol ei gyfnod’ hefyd yn flin am y penderfyniad ac yn teimlo na ddylai un dyn fod â chyfrifoldeb dros yr holl brosiect.

Mae’r penodiad i’r swydd unigryw hon a’i gyfranogiad tebygol ym mhob agwedd o’r gwaith yn golygu bod Telford yn gymwys i hawlio mai ef oedd y dyn oedd yn gyfrifol am y draphont. Wedi’r cyfan, fo fuodd yn goruchwylio’r prosiect cyfan. Ond…

Ai fo gynlluniodd y draphont? Onid y ‘brêns’ fyddai’r person a luniodd y cynlluniau? Mae pwy’n union oedd y person yma yn dal i gael ei drafod.

Mae’n bendant yn hawlio’r cynlluniau fel ei rai ef ei hun yn ei hunangofiant, ond does dim cynlluniau wedi eu llofnodi sy’n dystiolaeth i hynny. A gan fod llawer o waith yn cael ei ddirprwyo drwy gydol prosiect, pwy sydd i ddweud na chafodd y gwaith cynllunio ei ddirprwyo hefyd?

Yn ei hunangofiant, mae’n lleihau cyfraniadau William Jessop pan fo cofnodion o gyfarfodydd amrywiol yn profi’n groes i hynny. A yw hefyd yn gor-ddweud drwy hawlio’r cynlluniau fel ei rai ei hun?

O bosib, ond fe wnaeth rhywun eu cynllunio, ac yn ei hunangofiant mae Telford hawlio’r diolch, a fo sy’n cael ei gydnabod yn hanesyddol hefyd.

Ydych chi wedi’ch darbwyllo? 😉 Beth am weld mwy o dystiolaeth cyn penderfynu.

William Turner

Cyn i Jessop gael ei benodi, roedd William Turner eisoes wedi cyflawni llawer o arolygon ac yn hyderus y byddai’n cael y swydd o oruchwylio’r prosiect. Ond nid felly oedd hi am fod.

Felly, os ydym am enwi unrhyw unigolyn penodol fel y ‘brêns’ tu nôl y draphont, mae’n siŵr y gallai Turner hawlio hyn ei hun…. wedi’r cwbl, fo oedd yno gyntaf, hyd yn oed os na fuodd ei waith ymhellach na’r cam arolygu.

Y ddadl yn erbyn Turner yw bod nifer o newidiadau wedi digwydd i’r cynlluniau wrth i’r prosiect gael ei adeiladu, felly roedd y canlyniad terfynol yn wahanol iawn i’w gynigion gwreiddiol.

Mae’n debyg y gallwn ddiolch i Turner am ei ran yn y syniad cychwynnol, ond byddai ei gydnabod fel y ‘brêns’ yn mynd gam yn rhy bell o bosib.

Ymlaen at y nesaf…

William Jessop

Cyn penodi Telford, chwaraeodd William Jessop ran yng nghamau cychwynnol y prosiect, gan iddo weithredu mewn rôl gynghori i’r syrfewyr lleol. Ni chafodd erioed ei benodi yn ffurfiol, ond roedd ei statws fel “prif beiriannydd camlas ei gyfnod” yn golygu ei fod yn naturiol ei fod yn cael ei ddefnyddio fel person cyswllt ar gyfer prosiect mor fawr.

Mae’n deg dweud bod Jessop yn anhapus â phenodiad Telford, gan awgrymu na fyddai neb yn gallu arwain yr holl waith peirianyddol yn ogystal â bod a chyfrifoldeb dros yr holl gyllideb eu hunain.

Er bod ei deitl yn awgrymu mai gan Telford fyddai’r cyfrifoldeb peirianyddol, mae cofnodion cyfarfodydd yn ei gwneud yn glir mai Jessop oedd y person oedd yn gyfrifol am gynghori’r cwmni am y camau gweithredu gorau i’w cymryd. Mae’r cofnodion hyn yn oed yn cyfeirio at Jessop fel ‘prif beiriannydd’.

Yn hunangofiant Telford, dim ond o safbwynt “gwaith daear” Jessop y mae Telford yn ei ganmol.

Mae tystiolaeth yn awgrymu bod Telford wedi dirprwyo nifer o swyddi i Jessop na fyddent yn bendant yn cael eu hystyried yn y categori “gwaith daear” felly efallai bod hyn ychydig yn annheg.

Fel rhywun oedd yn rhy wylaidd i ysgrifennu hunangofiant, ni chawsom glywed ochr Jessop yn llawn.

Beth bynnag wnewch chi o asesiad Telford o Jessop, mae’n siŵr bod ‘prif beiriannydd camlesi ei gyfnod’ wedi chwarae rhan fawr yng nghysyniad y draphont. Ac mae’n siŵr y byddai ei rôl fel ymgynghorydd allweddol wedi rhoi hawl rhesymol iddo gael ei alw yn ‘frêns’ y prosiect?

William Hazeldine

Ac yn olaf, Mr Hazeldine…

Roedd William Hazeldine yn feistr haearn profiadol ac yn beiriannydd yr oedd ei gymorth a’i waith crefftus yn allweddol i’r prosiect.

Ymddengys bod llawer o athrylith Telford yn golygu adnabod pobl oedd a’r gallu, a defnyddio’u talentau’n llawn – ac mae Hazeldine yn cwympo i’r categori hwn. Roedd Telford yn ei werthfawrogi’n fawr ac fe wnaethon nhw weithio gyda’i gilydd ar sawl prosiect arall dros y blynyddoedd.

Ymddengys mai Hazeldine ysgrifennodd y fanyleb olaf ar gyfer cynllunio’r cafn haearn ar gyfer Traphont Ddŵr Pontcysyllte. Roedd yn athrylith yn ei faes a hyd yn oed os nad fo oedd ‘brêns‘ y prosiect, roedd ei waith yn amhrisiadwy.

‘Y brêns’…

Yn seiliedig ar y canfyddiadau hyn byddai’n greulon enwi un person yn unig ar gyfer y teitl hwn. Roedd llawer o frêns yn gweithio gyda’i gilydd!

Mae Thomas Telford yn haeddu llawer o ddiolch am gadw prosiect mor anferthol gyda’i gilydd. Roedd yn llwyddiant aruthrol. Ac oherwydd hyn, pe gallai unrhyw hawlio cyfrifoldeb dros y prosiect cyfan, efallai y gallai ef wneud hynny.

Ond ei wir lwyddiant oedd defnyddio sgiliau cymaint o amrywiol bobl – mwy nag a nodir yn y blog hwn, i gwblhau’r prosiect. Felly mae ond yn iawn derbyn bod sawl person yn gyd gyfrifol am y gwaith.

Mae Traphont Ddŵr Pontcysyllte yn anhygoel… sut bynnag y daeth i fodolaeth 🙂

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan treftadaeth y byd Traphont Ddŵr Pontcysyllte.

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wedi bod awydd dysgu Cymraeg erioed?  Dewch draw i Dŷ Pawb! Wedi bod awydd dysgu Cymraeg erioed?  Dewch draw i Dŷ Pawb!
Erthygl nesaf Amser i gofio at Fynwent Wrecsam Amser i gofio at Fynwent Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English