Bydd gan nifer ohonoch chi gerdyn teithio rhatach – tocyn bysiau – a byddwch yn gwybod ei bod yn rhaid i chi adnewyddu eich cerdyn erbyn 31 Rhagfyr pan mae eich cerdyn cyfredol yn dod i ben.
Er bod nifer ohonoch chi wedi adnewyddu’ch tocyn, mae tipyn yn dal heb wneud. Efallai eich bod chi’n disgwyl i’r cyfnod prysuraf fynd heibio, ond efallai nad oeddech chi’n gwybod bod eich cerdyn yn mynd i ddod i ben.
DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.
Mae’n hawdd iawn gwneud cais ac mae Trafnidiaeth Cymru wedi creu fideo defnyddiol iawn sy’n rhoi cyfarwyddiadau cam wrth gam ar wneud hynny.
“Sut allaf i helpu?”
Os ydych chi’n cynnal grŵp mae pobl hŷn yn dod iddo, tybed a allech chi sôn am hyn wrthynt a gweld a ydynt angen rhywfaint o help?
Er bod nifer o bobl hŷn yn gwbl gyfarwydd â defnyddio llechen, cyfrifiadur neu ffôn, nid pawb sy’n gallu.
Felly, allech chi helpu rhywun rydych chi’n ei adnabod i wneud cais ar-lein gan ddefnyddio eich teclyn chi? Mae’n broses sydyn iawn a gall arbed poen meddwl i rywun sydd ddim yn gallu mynd ar y we. Y cyfan sydd ei angen yw rhif eu cerdyn cyfredol a’u rhif yswiriant gwladol.
Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.
COFRESTRWCH FI RŴAN