Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi wedi cael eich pigiad ffliw eto?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ydych chi wedi cael eich pigiad ffliw eto?
Pobl a lle

Ydych chi wedi cael eich pigiad ffliw eto?

Diweddarwyd diwethaf: 2020/10/20 at 9:50 AM
Rhannu
Darllen 8 funud
Flu
RHANNU

Rydym yn ymuno ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i annog pawb sy’n gymwys i gael eu brechiad ffliw am ddim gyda’r rhaglen o frechiadau ffliw cenedlaethol ar droed bellach.

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Gall ffliw fod yn ddifrifol iawn i bobl hŷn neu bobl sydd â chyflwr iechyd ac yn fwy agored i gymhlethdodau o ganlyniad i’r ffliw. Cael brechiad ffliw bob blwyddyn yw un o’r dulliau mwyaf effeithiol o amddiffyn yn erbyn ffliw.

“Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud trefniadau i gael eich un chi er mwyn amddiffyn eich iechyd chi ac iechyd y bobl o’ch cwmpas chi.”

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Mae’r rhai sy’n gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn cynnwys pobl â chyflyrau iechyd hirdymor, pobl 65 oed a throsodd, menywod beichiog, plant rhwng dwy a deg oed, gofalwyr, gofalwyr cartref a staff cartrefi gofal gyda chyswllt rheolaidd â chleientiaid yn ogystal â phreswylwyr cartrefi gofal.

Mae hefyd am ddim i ymatebwyr Cyntaf Cymunedol a gwirfoddolwyr sy’n darparu cymorth cyntaf wedi’i gynllunio. Mae brechlyn ffliw blynyddol yn cael ei argymell yn gryf ar gyfer yr holl weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen i amddiffyn eu hunain a’r rhai y maent yn gofalu amdanynt.

Bydd plant dwy a thair oed (ar 31 Awst 2020) a phob plentyn ysgol gynradd (dosbarth derbyn hyd at flwyddyn chwech) yn cael cynnig y brechlyn ar ffurf chwistrell drwynol. Gall plant o ddwy oed sydd â chyflwr iechyd hirdymor dderbyn chwistrell drwynol ffliw am ddim hefyd.

Ar gyfer rhaglen ffliw’r tymor hwn, mae grwpiau newydd wedi’u hychwanegu at y rhestr gymwys, sy’n golygu mai dyma’r rhaglen ffliw genedlaethol fwyaf erioed.

Mae’r grwpiau cymwys newydd yn cynnwys cysylltiadau cartref ar restr y GIG o’r bobl a warchodir a phobl ag anabledd dysgu.

Yn ogystal, efallai y bydd pobl 50 oed a throsodd hefyd yn cael cynnig brechlyn ffliw am ddim gan y GIG yn ddiweddarach yn y tymor.

I hyrwyddo’r brechlyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio ymgyrch sy’n cynnwys hysbyseb deledu a radio newydd yn ogystal â chynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol a digidol. Bydd yr ymgyrch yn fyw o 21 Medi, gyda’r hysbyseb deledu yn cael ei darlledu am y tro cyntaf ar 5 Hydref.

Datgelodd ymchwil a gynhaliwyd gan YouGov, ar ran Iechyd Cyhoeddus Cymru, y dywedodd 68 y cant o’r bobl a atebodd y byddent yn gymwys i gael brechlyn ffliw am ddim yn ‘debygol iawn’ o gael y brechlyn eleni.

Ar yr un pryd, datgelodd y data hefyd fod 50 y cant o’r ymatebwyr a atebodd y byddent yn gymwys o’r farn bod cael brechlyn ffliw yn ‘llawer pwysicach’ eleni o ganlyniad i’r Coronafeirws Newydd (COVID-19).

Dywedodd Casey Keegans, rheolwr ward iechyd meddwl yn Hafan y Coed yn Ysbyty Llandochau ac un o’r ‘Hyrwyddwyr Ffliw’ presennol:

“Mae bob amser wedi bod yn bwysig cael eich brechlyn ffliw, ond yn enwedig eleni oherwydd pandemig COVID-19.

“I ni, cawsom gynnydd yn bendant o ran derbyniadau a phobl y mae angen cymorth iechyd meddwl arnynt o ganlyniad i’r straen o’r pandemig. Dyna pam rydym yn ffodus bod gennym frechlyn i helpu i’n hamddiffyn rhag y ffliw, a all fod yn cylchredeg ar yr un pryd â COVID-19 y gaeaf hwn.

“Rwy’n gwybod y gall cael eich brechu beri pryder, ond mae digon o weithwyr iechyd proffesiynol fel nyrsys, fferyllwyr a meddygon teulu a fydd yn gallu rhoi sicrwydd i chi a’ch cefnogi.

“Drwy gael y brechlyn ffliw, rydym nid yn unig yn amddiffyn ein hunain, ond rydym hefyd yn amddiffyn y rhai o’n cwmpas, yn enwedig unigolion â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes.”

Meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Eleni rydym yn ymestyn y brechlyn ffliw i fwy o bobl nag erioed o’r blaen. Mae ffliw yn lledaenu’n hawdd iawn a gall unrhyw un ei gael. Fodd bynnag, mae’n arbennig o beryglus i bobl sy’n fwy agored i niwed, fel y rhai â chyflyrau iechyd hirdymor a menywod beichiog.

“Y gaeaf hwn, gyda phresenoldeb parhaus Covid-19 rydym am sicrhau bod mwy o bobl yn cael y brechlyn ffliw, dyna pam rydym wedi cynyddu’r grwpiau cymwys.

“Rwy’n deall y gall rhai pobl fod yn bryderus am fynd i’w fferyllfa gymunedol neu feddygfa meddyg teulu i gael eu brechlyn oherwydd COVID-19, ond bydd meddygfeydd a fferyllfeydd yn dilyn yr arferion diogelwch diweddaraf.

“Rwy’n annog yn gryf y rhai sy’n gymwys i gael eu brechlyn cyn gynted â phosibl er mwyn helpu i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a’u cymuned.”

Meddai Dr Richard Roberts, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae feirysau’r ffliw yn lledaenu’n hawdd a gallant fod yn ddifrifol iawn i bobl hŷn a’r rhai â chyflyrau iechyd. Bob blwyddyn, mae cannoedd o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty neu unedau gofal dwys gyda’r ffliw.

“Dylai unrhyw un yr argymhellir eu bod yn cael brechiad rhag y ffliw drefnu apwyntiad cyn gynted â phosibl.

“Mae feirysau’r ffliw yn newid bob blwyddyn felly mae pawb mewn perygl o gael y ffliw. Mae’r brechlyn rhag y ffliw yn amddiffyn tri i chwech o bob 10 o bobl sy’n cael eu brechu. Dyma pam ei bod mor bwysig cael y brechlyn rhag y ffliw bob blwyddyn – i sicrhau eich bod yn cael yr amddiffyniad gorau posibl.”

Gall unrhyw un ddal y ffliw. Mae’r symptomau yn debygol o gynnwys; twymyn, oerfel, blinder a gwendid, pen tost, poenau cyffredinol a pheswch sych, ar y frest. Mewn hyd at hanner yr achosion gall pobl gael ffliw heb hyd yn oed sylweddoli hynny – a gallant ei ledaenu i eraill o hyd.

Mae rhai symptomau COVID-19 yn debyg i’r ffliw felly edrychwch ar y cyngor diweddaraf a dilyn y canllawiau presennol ar COVID-19.

I helpu i atal y ffliw a feirysau eraill rhag lledaenu, cofiwch ‘Ei Ddal, Ei Daflu, Ei Ddifa.’

Y tymor ffliw hwn, efallai y bydd y trefniadau yn wahanol oherwydd y Coronafeirws Newydd (COVID-19). I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i  www.curwchffliw.org neu www.beatflu.org neu chwiliwch am Curwch Ffliw neu Beat Flu ar Twitter a Facebook.

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ein hymateb i ymgynghoriad “Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro” (Hydref 2020) Ein hymateb i ymgynghoriad “Lleihau’r Defnydd o Blastig Untro” (Hydref 2020)
Erthygl nesaf Halloween Mwynhewch Galan Gaeaf Adref – Parchu, gwarchod a mwynhau

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd? Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…
Busnes ac addysg Ionawr 30, 2026
Ageing Well event at Ty Pawb
Digwyddiad Heneiddio’n Dda Wrecsam (12 Chwefror)
Digwyddiadau Ionawr 30, 2026
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 29, 2026
Parking sign
Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 28, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol
Pobl a lleY cyngor

Erlyniad llwyddiannus mewn perthynas â niwsans sŵn difrifol

Ionawr 29, 2026
Parking sign
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Millwall – cofiwch y parcio a theithio

Ionawr 28, 2026
Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Cynllun Treftadaeth Treflun yn derbyn Gwobr Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Ionawr 27, 2026
Ruabon library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon

Ionawr 23, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English