Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Diweddarwyd diwethaf: Awst 27, 2026 10:28 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
RHANNU

Gall sglefrfyrddwyr, reidwyr sgwteri a sglefrwyr mewnlin nawr fwynhau parc sglefrio newydd sbon yn Lôn Price yn Rhosddu.

Agorwyd y cyfleuster gwerth £100,000 yn swyddogol mewn digwyddiad lansio a fynychwyd gan y Cynghorydd I. David Bithell MBE, cynrychiolwyr o Gyngor Cymuned Rhosddu, Sgowtiaid a Geidiaid lleol Wrecsam, a swyddogion o Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r prosiect wedi newid yr hen barc sglefrio dur am gyfleuster concrit modern sydd wedi’i gynllunio i fod yn fwy hygyrch, gwydn ac addas i ddefnyddwyr o wahanol oedrannau a galluoedd.

Ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc leol ar ddatblygiad y prosiect a chawsant eu gwahodd i rannu eu barn ar y nodweddion yr oeddent am eu gweld, a helpodd eu hadborth i lunio’r dyluniad terfynol.

Cafodd y gwaith ailddatblygu ei ariannu gan Gyngor Cymuned Rhosddu a’i hyrwyddo gan y Cynghorydd I. David Bithell MBE, a weithiodd yn agos gyda phartneriaid i symud y prosiect yn ei flaen. Penodwyd y contractwr Wheelscape, sy’n arbenigo mewn parciau sglefrio, yn dilyn proses gaffael gystadleuol.

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Dywedodd y Cynghorydd I. David Bithell MBE, Cynghorydd Sir dros Ward Stansty, Rhosddu:

“Rwy wrth fy modd bod Parc Sglefrio newydd Lôn Price bellach ar agor yn swyddogol ac yn cael ei fwynhau gan drigolion lleol.

Roedd yr hen barc sglefrio wedi cyrraedd diwedd ei oes ddefnyddiol ac roedd angen ei uwchraddio i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well. Cynhaliwyd arolwg gyda defnyddwyr presennol i gael gwybod pa nodweddion yr oeddent am eu gweld yn y parc sglefrio newydd, ac mae eu hawgrymiadau wedi’u hymgorffori yn y dyluniad terfynol.

Roeddwn i’n falch o sicrhau cyllid gan Gyngor Cymuned Rhosddu ar gyfer y prosiect hwn, ac rwy’n ddiolchgar iawn amdano. Hoffwn hefyd ddiolch i Swyddogion Amgylchedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam am eu cefnogaeth drwy gydol y prosiect.

Mae’n wych gweld pobl ifanc bellach yn elwa o gyfleuster modern o ansawdd uchel a fydd yn gwasanaethu’r gymuned am flynyddoedd lawer i ddod.”

Mae disgwyl i’r cyfleuster newydd ddod yn gyrchfan boblogaidd i selogion chwaraeon olwynion ledled yr ardal, gan ddarparu gofod diogel, cynhwysol a deniadol ar gyfer hamddena, gweithgarwch corfforol ac ymgysylltiad cymunedol.

Rhannu
Erthygl flaenorol Tattoo Cymru 2026 Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Erthygl nesaf Social Prescribing and Community Wellness service Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English