Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi wedi derbyn e-bost am eich trwydded teledu? Mae’n debyg mai twyll ydyw!
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Ydych chi wedi derbyn e-bost am eich trwydded teledu? Mae’n debyg mai twyll ydyw!
ArallY cyngor

Ydych chi wedi derbyn e-bost am eich trwydded teledu? Mae’n debyg mai twyll ydyw!

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 7, 2019 11:58 am
Rhannu
Darllen 3 funud
laptop
RHANNU

Mae e-bost twyll yn mynd o amgylch ar hyn o bryd ac mae ein Swyddogion Safonau Masnach yn gofyn i chi fod yn wyliadwrus oherwydd gallai olygu eich bod yn colli llawer iawn o arian.

Cynnwys
  • Ni fyddent yn:
  • Gwiriwch y cyfeiriad e-bost
  • Gwirio llinell testun yr e-bost
  • Gwiriwch fod y dolenni yn mynd i’r wefan Trwyddedu Teledu
  • Gwiriwch am newid mewn arddull a chamgymeriadau sillafu neu ramadeg

Mae’r e-bost yn ymddangos fel petai wedi cael ei anfon gan awdurdodau trwyddedu teledu ac yn defnyddio penawdau megis “correct your licensing information” neu “your TV License expires today”

Gall ofyn i chi wirio eich manylion talu, yn cynnwys manylion banc a gofyn hefyd am bethau fel cyfenw eich mam cyn priodi a’ch dyddiad geni.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Mae’r Awdurdod Trwyddedu Teledu wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol ar sut i ddweud os yw’r e-bost yr ydych wedi ei dderbyn yn ddilys neu’n dwyll.

Ni fyddent yn:

Anfon e-bost atoch i ddweud bod gennych hawl am ad-daliad.

Gofyn i chi dalu mwy am ein gwasanaethau, e.e. wrth brynu trwydded neu newid eich manylion.

Gwiriwch y cyfeiriad e-bost

Byddent bron bob amser yn defnyddio un o’r cyfeiriadau e-bost canlynol:

donotreply@tvlicensing.co.uk

no-reply@tvlreminders.co.uk

Ar adegau, byddent yn cydweithio â chwmnïau eraill i anfon negeseuon e-bost. Mae’r cwmnïau hyn yn cynnwys InfoBase-X ac Acxiom Limited, a allai anfon e-bost i chi – ar ran Trwyddedu Teledu – o Infobase-XConsumer@dm-uk1.com.

Gwirio llinell testun yr e-bost

Dylai unrhyw beth sy’n dweud “Action required”, “Security Alert”, “System Upgrade”, “There is a secure message Waiting for you”, ac ati, gael eu trin fel rhai amheus.

Gwiriwch fod y dolenni yn mynd i’r wefan Trwyddedu Teledu

Os ydych ar gyfrifiadur, rhowch y llygoden dros y dolenni yn yr e-bost (ond peidiwch â chlicio arnynt) i weld eu cyrchfan a gwirio’r cyfeiriad gwe yn ofalus. Os nad allwch roi llygoden dros y dolenni (e.e. os ydych chi’n defnyddio eich ffôn neu dabled) neu os nad ydych yn sicr beth i’w wneud, ewch yn syth i wefan Trwyddedu Teledu.

Gwiriwch am newid mewn arddull a chamgymeriadau sillafu neu ramadeg

Yn aml, mae twyllwyr yn cymryd negeseuon e-bost go iawn a’u haddasu. Edrychwch am newidiadau yn yr eirfa a ddefnyddir, yn arbennig os yw’n ymddangos yn rhy anffurfiol neu gyfarwydd.

A oes unrhyw gamgymeriadau sillafu, atalnodau llawn coll neu gamgymeriadau gramadeg eraill?

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Children's Services Cynhelir cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gweithredol yn 2019 yfory – dyma sydd ar y Rhaglen
Erthygl nesaf Draenio Pwll Stryt Las i'w Lanhau ac i Dynnu’r Pysgod Allan Draenio Pwll Stryt Las i’w Lanhau ac i Dynnu’r Pysgod Allan

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn in Wrexham
Gwirfoddolwyr lleol yn helpu i adrodd stori Prydain yn y Rhyfel… pwyth fesul pwyth
Digwyddiadau Fideo Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Wrecsam letters at Erddig
Llythrennau eiconig WRECSAM yn dechrau eu pennod nesaf yn Erddig
Pobl a lle
Hydref 2, 2026
Poppy field
Wrecsam yn Cofio
Digwyddiadau
Hydref 2, 2026
Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
ArallPobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi

Hydref 1, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English