Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynhelir cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gweithredol yn 2019 yfory – dyma sydd ar y Rhaglen
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Cynhelir cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gweithredol yn 2019 yfory – dyma sydd ar y Rhaglen
Busnes ac addysgY cyngor

Cynhelir cyfarfod cyntaf y Bwrdd Gweithredol yn 2019 yfory – dyma sydd ar y Rhaglen

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 7, 2019 9:11 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Children's Services
RHANNU

Mae pethau’n dychwelyd i’w trefn arferol yn dilyn toriad y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ac rydym ar fin darlledu cyfarfod Bwrdd Gweithredol cyntaf y flwyddyn.

Yn gyntaf ar y rhaglen ceir cyllideb y flwyddyn nesaf yn dilyn setliad terfynol Llywodraeth Cymru, a gofynnir i aelodau argymell y gwariant net o £236,853k i’r Cyngor, a fydd yn golygu cynnydd mewn treth cyngor Band D o 5.5% – £1,153.13.

Mae’r argymhellion cyllideb yn dilyn ymgynghori cyhoeddus, lle y cynigid codi tâl am gludiant i’r ysgol ar gyfer ysgolion ffydd, a ffi o £30 ar gyfer pob casgliad biniau gwyrdd. Nid oes yr un o’r cynigion hyn wedi eu cynnwys yn y gyllideb ac ni fyddant yn mynd yn eu blaenau yn 2019/20.

YMGEISIO AM LE MEITHRIN AR GYFER MEDI 2019

Yn dilyn y drafodaeth ar y gyllideb, gofynnir i aelodau gytuno ar gynigion ynghylch dyfodol safle Erlas ar Lôn Bryn Estyn, a derbyn adborth ar y cynigion i gynyddu nifer y disgyblion yn Ysgol Bro Alun yng Ngwersyllt.

Bwriedir trafod pêl-droed yn y fwrdeistref sirol yn ogystal, wrth i aelodau dderbyn diweddariad ar ddatblygiad strategaeth bêl-droed sy’n cael ei weithio arno mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a’r camau nesaf ar gyfer cyflwyno cyfres o brosiectau peilot.

Gallwch wylio’r cyfarfod yn fyw o 10yb yfory trwy ddilyn y ddolen hon https://wrexham.public-i.tv/core/portal/home. Yn y cyfamser, os hoffech fwrw golwg dros yr adroddiadau i weld yr hyn sy’n cael ei gynnig, gallwch eu darllen yma.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.wrexham.gov.uk/welsh/education_w/admissions_nursery.htm”] YMGEISIWCH NAWR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Hoffi cerddoriaeth? Edrychwch ar y tymor newydd o gyngherddau AM DDIM yn Tŷ Pawb... Hoffi cerddoriaeth? Edrychwch ar y tymor newydd o gyngherddau AM DDIM yn Tŷ Pawb…
Erthygl nesaf laptop Ydych chi wedi derbyn e-bost am eich trwydded teledu? Mae’n debyg mai twyll ydyw!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Armed Forces
Gwasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn dychwelyd… 3 Rhagfyr 🎄
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Wrecsam yn dathlu buddugoliaeth Aur a chategori ym Mhrydain yn ei Blodau 2026 
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 28, 2026
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Annog trigolion Wrecsam i ofalu rhag masnachwyr twyllodrus yn dilyn storm Austen
Pobl a lle
Hydref 27, 2026
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Yr Actor Cymreig Rhys Ifans yn cefnogi cais Wrecsam i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2029
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 27, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngorDigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026

Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Pobl a lleBusnes ac addysg

Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da

Hydref 26, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Busnes ac addysg

Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam

Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English