Mae masnachwyr canol y dref wedi dod ynghyd i drefnu Llwybr Dyn Eira Canol y Dref – gweithgaredd hwyliog am ddim i’r teulu, a gallwch ennill gwobr yn y broses.
Cynhelir y digwyddiad tan 19 Rhagfyr a’r oll sydd angen i chi wneud er mwyn cofrestru yw dod o hyd i’r dynion eira mewn ffenestri siopau, ysgrifennu’r rhifau a’i ddychwelyd i un o’r masnachwyr isod, a chroesi eich bysedd!
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae gwobrau yn cynnwys talebau anrheg a nwyddau o’r siopau sy’n cymryd rhan.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â 01978 266887 neu anfonwch e-bost at webquery@reesjeweller.co.uk.
Bydd ffurflenni cofrestru ar gael o unrhyw fusnesau sy’n cymryd rhan, a dylid eu dychwelyd i Quaintways (Stryt Siarl), Emz Cakes a Martin Rees Jewellers (Stryt Caer) neu Taste Buds (Stryd Fawr).
Pob lwc a mwynhewch eich gwobr.
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]