Rydym i gyd yn caru ein cŵn ac yn mynd â nhw am dro rheolaidd a rhedeg i’w cadw’n iach ac mewn cyflwr da.
Er mwyn cadw pawb yn hapus – perchnogion cŵn a phawb arall – rydym yn defnyddio Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus i gyfyngu lle gall cŵn fynd ac rydym yn meddwl ei fod yn deg a hawdd i’w ddeall.
“Cael eu gadael oddi ar dennyn mewn parciau gwledig”
O dan y Gorchymyn, mae cŵn wedi’u gwahardd o feysydd parcio a chanolfannau ymwelwyr yn ein holl barciau gwledig, ond gellir eu gollwng yn rhydd i redeg pan nad ydynt yn yr ardaloedd hynny.
Hefyd, ni chaniateir cŵn ar lawntiau bowlio, caeau chwarae sydd wedi’u marcio ac ardaloedd chwarae plant, parciau sgrialu, cyrtiau tennis ac ardaloedd chwarae aml-ddefnydd.
Dylai eich ci hefyd fod ar dennyn ar ffordd gyhoeddus neu balmant neu os gofynnwyd i chi roi un ar eich ci yn ein parciau gwledig gan aelod o staff.
“Casglu baw cŵn bob tro”
Dylech hefyd sicrhau os bydd eich ci yn baeddu yna dylech bob amser ei gasglu a’i roi yn y bin.
Os byddwch yn gadael eich ci mewn unrhyw ardaloedd rheoledig neu ddim yn casglu baw ci yna gallech gael dirwy o £100 ac nid oes unrhyw un eisiau hynny felly gwiriwch y llwybrau rydych yn cerdded y ci yn rheolaidd a gwnewch yn siŵr nad ydych yn mynd â’ch ffrind pedair coes i unrhyw le na ddylech na’u gadael oddi ar y dennyn mewn mannau penodol a chariwch fag i gasglu’r baw ci bob tro.
“Dim esgusion”
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Cafodd y Gorchymyn Gwarchod Mannau Cyhoeddus ei gyflwyno i gadw pawb yn ddiogel ac mae’n seiliedig ar synnwyr cyffredin fel peidio eu gadael yn rhydd mewn meysydd parcio i ymwelwyr gan ei fod yn beryglus. Mae’r mwyafrif o berchnogion cŵn yn ymwybodol lle maent yn cael a ddim yn cael mynd â’u cŵn ond mae’n werth gwirio eich llwybr rheolaidd gan nad oes unrhyw un eisiau wynebu dirwy o £100. Mae baw cŵn hefyd yn un o’r cwynion mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn ac nid oes unrhyw esgus. Gellir cyflwyno dirwy o £100 i berchnogion cŵn anghyfrifol sy’n cael eu dal!
Gallwch roi gwybod am gŵn sy’n baeddu yma:
Cŵn yn baeddu