Band lleol Seazoo yn perfformio yn yr HWB.

Pssst … Bydd BBC Radio Cymru yn darlledu yn fyw o’r HWB o 2yh heddiw (dydd Gwener, Mai 11). A fydd marathon comedi Tudur Owen yn uchafbwynt heno 🙂

Hei. Ydych chi wedi gweld y tipi yn Sgwâr y Frenhines?

Am y tridiau nesaf, hwn fydd cartref HWB Cymraeg – y digwyddiad Cymraeg sy’n cael ei gynnal yn rhan o’r ŵyl gerddoriaeth a diwylliant, FOCUS Wales.

Felly peidiwch â bod yn swil… galwch heibio i weld be’ ydi be’ yno.

Mae cerddoriaeth fyw, comedi, cyfleoedd i ddysgu Cymraeg, gweithgareddau i blant, bwyd poeth a llawer mwy.

Y nod ydi hyrwyddo’r Gymraeg, ac mae’r digwyddiad yn cael ei gefnogi gan Gyngor Wrecsam a FOCUS Wales.

A ’does dim rhaid gallu siarad Cymraeg i fwynhau yno… gall unrhyw un alw heibio i gael ei ysbrydoli gan ein hiaith arbennig.

Lawrlwythwch yr amserlen isod, neu gymryd cipolwg ar y digwyddiad ar Facebook am fwy o wybodaeth…

LAWRLWYTHWCH AMSERLEM