Oes gennych chi sgiliau rheoli ac arwain cryf? Sgiliau cyfathrebu a gweithio mewn tîm rhagorol? Dealltwriaeth a gwybodaeth dda o gynllunio ar gyfer cyflawni gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar y Plentyn, a phrofiad o weithio gyda phlant diamddiffyn? Os felly, hoffem glywed gennych.
Mae gennym ni gartref bach newydd i blant yn agor yn Wrecsam, ac rydym yn chwilio am Reolwr profiadol sy’n angerddol am ddarparu gofal a chymorth o ansawdd uchel, sy’n canolbwyntio ar y Plentyn, i’w reoli.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd y rôl yn cynnwys sefydlu, cofrestru gydag AGC a bod yn Rheolwr Cofrestredig cartref arbenigol sy’n cefnogi Plant ag Anableddau. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am reoli a datblygu’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, gan hyrwyddo canlyniadau cadarnhaol i unigolion.
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad amlwg o reoli newid, gwella gwasanaethau’n barhaus, a datblygu diwylliant cadarnhaol. Bydd yn meddu ar ddealltwriaeth gadarn o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, a’r Canllawiau Statudol perthnasol, Deddf Plant 1989, a deddfwriaeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Bydd angen i ddeiliad y swydd fod wedi cymhwyso a chofrestru fel y ‘Rheolwr Cofrestredig’ enwebedig gyda Gofal Cymdeithasol Cymru a chynnal y cofrestriad gorfodol fel Rheolwr Cofrestredig Gwasanaethau Preswyl Plant.
Oes arnoch chi eisiau dringo’r ysgol yrfa? Os felly, dilynwch y ddolen hon i fwrw golwg ar y swydd-ddisgrifiad a’r manylion.
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH