Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ydych chi’n cofio Dydd Llun Pawb? Bydd arddangosfa newydd yn ail nodi’r diwrnod
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Ydych chi’n cofio Dydd Llun Pawb? Bydd arddangosfa newydd yn ail nodi’r diwrnod
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Ydych chi’n cofio Dydd Llun Pawb? Bydd arddangosfa newydd yn ail nodi’r diwrnod

Diweddarwyd diwethaf: Mai 21, 2018 12:42 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Ydych chi’n cofio Dydd Llun Pawb? Bydd arddangosfa newydd yn ail nodi’r diwrnod
Dydd Llun Pawb - Ginger Pixie Photography
RHANNU

Mae’n bosibl bod lliw a hwyl Dydd Llun Pawb, a welodd miloedd o bobl yn dod i ganol tref Wrecsam i ddathlu agoriad Tŷ Pawb ar ddydd Llun Gŵyl y Banc glawog, fel atgof pell wrth i ni nesáu at yr haf.

Cynnwys
  • Chwe stori wedi’u dewis
  • “Straeon rhyfedd a rhyfeddol”

Wrth i arddangosfa agoriadol Tŷ Pawb, Ai’r ddaear yw hon? ddod i ben ar ddiwedd mis Mehefin, bydd arddangosfa newydd sy’n edrych yn ôl dros waith paratoi carnifal Dydd Llun Pawb yn agor.

Y teitl fydd Wrecsam yw’r Enw, a bydd yr arddangosfa newydd yn cynnwys y chwe chofrodd ar thema Wrecsam a gomisiynwyd gan Dŷ Pawb fel rhan o ddathliadau Dydd Llun Pawb, ynghyd â gwrthrychau a delweddau eraill.

EWCH YN WYRDD – DEWISWCH FILIAU TRETH CYNGOR DI-BAPUR…

Chwe stori wedi’u dewis

Ym mis Tachwedd y llynedd, dewiswyd chwe artist gan Dŷ Pawb i ddatblygu cofrodd a ysbrydolwyd gan stori benodol o orffennol Wrecsam.

Dewiswyd y chwe stori a ysbrydolodd y cofroddion gan y cyhoedd yn ystod haf y llynedd o restr hir o 25, ac fe’u datblygwyd gan yr artistiaid Sophia Leadill, John Merrill, Marcus Orlandi, Nicholas Pankhurst, Martha Todd a Bedwyr Williams.

O’r prosiect fe ddaeth casgliad amrywiol o arteffactau, o gyhoeddiadau print i sgarffiau pêl-droed, a gaiff eu harddangos yn Nhŷ Pawb.

Fe fydd y gwaith teimladwy, doniol ac ingol wedi’u harddangos ochr yn ochr ag amrywiaeth o eitemau dogfennau Dydd Llun Pawb – lle cafodd fersiynau o’r cofroddion eu paredio drwy’r dref i ddathlu agoriad Tŷ Pawb – a chyfweliadau gyda phob un o’r chwe artist.

Bydd hyn yn cynnwys gwrthrychau a delweddau sy’n gysylltiedig â phrosiect Dydd Llun Pawb, a oedd yn flwyddyn o hyd, a oedd yn cynnwys gweithdai ac ymgysylltu â’r gymuned yn ystod y cyfnod a oedd yn arwain at y diwrnod dathlu ar 2 Ebrill.

Bydd Wrecsam yw’r Enw yn rhedeg yn Nhŷ Pawb o 30 Mehefin tan 19 Awst.

“Straeon rhyfedd a rhyfeddol”

Dywedodd Jo Marsh, Arweinydd Celfyddydau Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Mae’r broses o ddatblygu’r chwe chofrodd wedi datgelu straeon rhyfedd a rhyfeddol. Mae’r chwe artist wedi gwneud gwaith gwych wrth gyfieithu ein treftadaeth yn rhywbeth y bydd ymwelwyr i Dŷ Pawb am fod yn berchen arno a’i drysori.”

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn nhreftadaeth Wrecsam i ymweld â’r arddangosfa hwn yn Nhŷ Pawb. Mae hon yn enghraifft wych o’n cymunedau lleol yn cynnwys eu hunain ym mywyd Tŷ Pawb.

“Mae’r cofroddion a gynhyrchwyd wedi’u hysbrydoli gan nifer o atgofion o’r Wrecsam a fu, ac rwy’n siŵr y bydd gan aelodau’r cyhoedd atgofion yr un mor felys ohonynt.”

Cyflym, effeithlon ac yn dda am yr amgylchedd – dewiswch filiau Treth Cyngor di-bapur trwy FyNghyfrif

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/MyServices”] COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Angen help ar gyfer eich busnes? Ewch i weld Canolbwynt Menter newydd Wrecsam Angen help ar gyfer eich busnes? Ewch i weld Canolbwynt Menter newydd Wrecsam
Erthygl nesaf Gwelsoch chi’r fideo hon? Uchafbwyntiau o’r HWB 2018 Gwelsoch chi’r fideo hon? Uchafbwyntiau o’r HWB 2018

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Red Ensign Flag
Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch
Arall Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 24, 2026
Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Pobl a lle

Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam

Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English