Eleni mae Llyfrgell Wrecsam yn dathlu 50 mlynedd yn adeilad Ffordd Rhosddu ac mae’n rhaid bod gan gymaint ohonoch atgofion anhygoel, a lluniau gwych!
Mae’r llyfrgell wedi newid llawer dros y blynyddoedd ac fe fyddem wrth ein bodd yn gweld unrhyw luniau sydd gennych chi sy’n dangos beth rydych wedi’i garu amdano dros y blynyddoedd.
Efallai bod gennych chi lun o’r pwll plant yn llyfrgell y plant?
Beth am y casgliad enfawr o recordiau finyl?
Wnaethoch chi astudio yno pan oeddech chi yn yr ysgol/coleg?
Oes gennych chi lun o du allan i’r llyfrgell ers talwm?
Efallai eich bod chi’n cofio’r droriau a’r droriau’n llawn tocynnau?
Beth bynnag yw’r atgofion sydd gennych o’r llyfrgell, fe fyddem ni wrth ein bodd yn eu gweld nhw.
Gallwch alw draw i’r llyfrgell a gollwng unrhyw luniau (fe anfonwn ni’r copïau gwreiddiol yn ôl atoch chi) neu fe allwch eu he-bostio i library@wrexham.gov.uk
Edrychwn ymlaen at eu gweld!
Talu i wagio eich bin gwyrdd 2022/23.
TALU NAWR