Ydi eich plentyn yn ddisgybl yn un o’n hysgolion?

Neu ydych chi’n athro neu’n athrawes?

DERBYNIWCH Y WYBODAETH DDIWEDDARAF – YMAELODWCH I GAEL EIN PRIF STRAEON.

Os felly, efallai bydd gennych ddiddordeb yn hwn…

Cyfres Microsoft am ddim

Diolch i Hwb – gwefan adnoddau Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg ar draws Cymru – mae Microsoft Office 365 bellach ar gael yn rhad ac am ddim i ddysgwyr ac athrawon yng Nghymru.

Mae Office 365 yn cynnwys Word, Excel, PowerPoint, Publisher, Access, OneNote, Outlook a Skype for Business.

Mewngofnodwch i Hwb a lawrlwythwch Office 365.

Y pris arferol ydi £69 – felly os ydych chi’n athro/athrawes neu’n ddysgwr, mae werth manteisio ar gynnig Hwb!

Newyddion da i gefnogwyr Minecraft…

Nid rhaglenni Office yw’r unig beth sydd ar gael.

Mae rhifyn Addysg o’r gêm boblogaidd Minecraft – gêm byd agored sydd yn annog creadigrwydd, cydweithio a datrys problemau – ar gael i’w lawrlwytho o Hwb hefyd.

Felly mae hi werth manteisio ar gynnig Hwb – ac fe allech chi hyd yn oed arbed ychydig o arian wrth i’r Nadolig nesáu!

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

COFRESTRWCH FI RŴAN