Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r byd yn ‘newid ei arferion’ ar blastigion…ydych chi’n newid hefyd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Fideo > Mae’r byd yn ‘newid ei arferion’ ar blastigion…ydych chi’n newid hefyd?
FideoY cyngor

Mae’r byd yn ‘newid ei arferion’ ar blastigion…ydych chi’n newid hefyd?

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 6, 2019 1:59 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
RHANNU

“Rwy’n meddwl ein bod ni oll yn newid ein hymddygiad…”

Cynnwys
  • Beth yw plastigion untro?
  • Pam bod plastig yn broblem…
  • Ailgylchu plastig yn Wrecsam
  • Dewch i ni gydweithio

Dyma ddywedodd Syr David Attenborough i’r BBC mewn cyfweliad diweddar, cyn ychwanegu, “Rwy’n meddwl ein bod ni oll yn newid ein harferion, ac mae’r byd yn dechrau deffro i’r hyn rydym wedi ei wneud i’r blaned.”

Yn sicr, mae plastig yn cael ei drafod fwy nac erioed, gyda phlastigion untro yn bryder sylweddol. O amgylch y byd, mae pobl yn dechrau sylweddoli hyn, ac rydym ni eisiau chwarae ein rhan a gweithredu.

Gallwn wneud hyn drwy leihau cymaint o blastigion untro ag y gallwn ni, ac ailgylchu ac ailddefnyddio ein plastigion eraill, a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn Wrecsam, ond rhaid i ni wneud hyn gyda’n gilydd.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Beth yw plastigion untro?

Plastig untro yw’r pethau hynny sy’n tueddu i gael eu defnyddio unwaith cyn cael eu taflu. Nid yw rhain yn ecogyfeillgar a’r natur wastraffus hon yw’r agwedd waethaf y gallwn ei gael wrth feddwl am ailgylchu.

Un o’r prif ffyrdd y gallwch fod yn well wrth ailgylchu yw peidio â defnyddio plastig untro a defnyddio opsiynau bioddiraddadwy neu rhai y gellir eu hailddefnyddio gymaint â phosib.

Ydych chi’n un o’r rhai hynny sydd wedi dechrau ‘newid arferion?’ Os nad ydych wedi dechrau eto, dyma ychydig o gefndir i’r broblem fawr hon.

Pam bod plastig yn broblem…

Yn syml, rydym yn dod yn fyd plastig…mae 79% o holl wastraff plastig sydd erioed wedi’i greu wedi aros yn ein hamgylchedd (RecycleNow).

Mae hwn yn ffigwr eithriadol. Meddyliwch am y peth. Dim ond tua un rhan o bump o’r plastigion a ddefnyddiwyd ar y Ddaear sydd ddim yn bodoli bellach. Mae’r gweddill yn dal yn bodoli…ac eto mae plastig yn parhau i gael ei gynhyrchu ar raddfa fawr.

Ailgylchu plastig yn Wrecsam

Yn Wrecsam gellir ailgylchu nifer o gynwysyddion plastig…a gellir ailgylchu nifer o’r rhain yn eich bocs gwyrdd/troli bocs canol. Edrychwch ar ein canllawiau am fwy o wybodaeth.

Golchwch yr holl eitemau hyn yn sydyn cyn i chi eu hailgylchu nhw. Nid oes angen i chi dreulio amser maith yn gwneud hyn, ond ni ddylai eitemau fod ag unrhyw weddillion bwyd neu ddiod ynddynt wrth eu hailgylchu.

Golyga hyn bod deunydd o safon llawer uwch yn cael ei anfon i’w hailgylchu i gynnyrch newydd, ac ni fydd eich eitemau ailgylchu yn halogi’r deunyddiau glân sydd eisoes wedi cael eu casglu gan y cerbyd ailgylchu.

Mae ein canllawiau hefyd yn dangos bod nifer o blastigion y gallwch eu hailgylchu yn ein tri chanolfan ailgylchu yn Wrecsam. Dim ond wrth ymgyfarwyddo gyda pha blastigion y gellir eu hailgylchu a’i peidio, y gallwn wneud dewisiadau gwybodus am yr hyn a brynwn.

Dewch i ni gydweithio

Rydym eisiau chwarae ein rhan i helpu’r blaned i oresgyn y broblem hon, ond dim ond drwy gydweithio gyda’n gilydd yn Wrecsam y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Dewch i ni fynd i’r afael â’r broblem blastig gyda’n gilydd 🙂

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n ddysgwr neu’n athro yn Wrecsam? Tarwch olwg ar hwn... Ydych chi’n ddysgwr neu’n athro yn Wrecsam? Tarwch olwg ar hwn…
Erthygl nesaf Pentref Llawen Mae hi bron yn amser ar gyfer y Pentref Nadolig

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Datblygu arloesi ffresni bwyd
Datblygu arloesi ffresni bwyd
Busnes ac addysg
Hydref 20, 2026
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Trigolion Rhos yn derbyn refeniw sylweddol
Pobl a lle
Hydref 20, 2026
Meet the Supertrees event
Digwyddiad teuluol ‘Meet the Supertrees’ yng Nghanolfan Adnoddau Gwersyllt (28 Hydref)
Pobl a lle Datgarboneiddio Wrecsam Digwyddiadau
Hydref 20, 2026
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Byddwch yn ymwybodol o sgamiau’r Hydref hwn
Pobl a lle
Hydref 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da
Pobl a lleDigwyddiadauFideo

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – Mae Nawr yn Amser Da

Hydref 20, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
DigwyddiadauDatgarboneiddio WrecsamFideo

Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English