Gall defnyddwyr Byd Dŵr ddisgwyl gweld gwelliannau sylweddol i’r cyfleusterau hamdden arferol dros y misoedd nesaf, gyda mwy na £1 miliwn o waith yn parhau i’r amwynderau newydd.
Dechreuodd Gyngor Wrecsam lunio cytundeb y gwanwyn diwethaf, gyda Freedom Leisure, gyda’r cwmni hamdden yn cymryd rheolaeth o bedair canolfan hamdden a gweithgareddau a phum cyfleuster chwaraeon defnydd deuol.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Mae’r gwelliannau ym Myd Dŵr yn un rhan o’r buddsoddiad gwerth £2.7 miliwn a wnaethpwyd gan Gyngor Wrecsam a Freedom Leisure i’r pedwar cyfleuster hamdden a chaeau 3G newydd ar draws y fwrdeistref sirol.
Bydd y gwelliannau, fydd yn cyflwyno’r cyfarpar campfa fwyaf modern a chyfleusterau newydd, yn cynnig ffyrdd newydd i ddefnyddwyr gadw’n heini.
Gwaith a gwaith adnewyddu ar y gweill
Bydd ardal y gampfa yn Byd Dŵr ar gau’r penwythnos hwn tan y dydd Llun dilynol (o 5pm dydd Gwener 4 Awst tan ddydd Llun, 7 Awst) i alluogi gosod y llawr newydd.
Bydd y gampfa hefyd ar gau ar gyfer gwaith adnewyddu pellach a gosod offer newydd sbon dydd Llun, 14 Awst tan ddydd Gwener 18 Awst – gyda’r cyfleuster newydd yn agor dydd Sadwrn, 19 Awst.
Ar ôl i’r gwaith ei gwblhau, bydd agoriad swyddogol o’r cyfleusterau newydd yn Byd Dŵr yn digwydd yn y ganolfan yn yr hydref.
Tra bydd y cyfleusterau yn Byd Dŵr ar gau, pan na gymerwch y cyfle i drio’r cyfleusterau newydd yng nghanolfannau Queensway, y Waun neu Gwyn Evans?
Mae’r tair canolfan wedi cael eu gwella i’w cyfarpar eu hunain fel rhan o’r buddsoddiad £2.7miliwn i gyfleusterau hamdden ar draws Wrecsam.
“Argraff fawr ar gyflymder y gwaith”
Cafodd y Cynghorydd Paul Rogers, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Threchu Tlodi, sydd â chyfrifoldeb dros Hamdden, gyfle i ymweld â’r ganolfan yn gynharach yr wythnos hon i weld y newidiadau sy’n cael eu gwneud ym Myd Dŵr.
Cafodd ei dywys o amgylch y safle gan Richard Milne, rheolwr y ganolfan, gan weld yr ardaloedd newid llawr gwaelod sydd wedi’u hadnewyddu, a’r gwaith parhaus i’r gampfa a’r ardal codi pwysau.
Dywedodd y Cynghorydd Rogers: “Mae’r datblygiad yn dod yn ei flaen yn gyflym ym Myd Dŵr ac mae Freedom Leisure wedi gwneud popeth o fewn eu gallu er mwyn sicrhau bod effaith y gwaith wedi bod mor isel â phosibl i ddefnyddwyr y ganolfan.
“Mae safon y gwaith sydd wedi’i gyflawni hyd yma wedi cael argraff dda arnaf – mae’r ystafelloedd newid newydd yn welliant sylweddol i’r hen rai, a bydd defnyddwyr y ganolfan yn hapus iawn gyda’r gweddnewidiad newydd hwn.
“Bydd y gampfa ac ystafell ffitrwydd gwell yn fantais sylweddol i ddefnyddwyr – ni fydd y defnyddwyr yn adnabod yr ardal ar ôl i’r gwaith i gyd gael ei gwblhau.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Rogers: “Mae hwn yn gyfleuster rhagorol yng nghalon Wrecsam, ac rwy’n siŵr ar ôl i’r gwaith orffen, y bydd y defnyddwyr yn hapus iawn gyda’r hyn sy’n cael ei gynnig.”
Dywedodd Richard Milne, Rheolwr Canolfan Byd Dŵr: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl gwsmeriaid am fod yn amyneddgar yn ystod cyfnod cyflawni’r gwaith. Rydym yn awr yn dod i’r camau olaf yn y gwaith, felly ni ddylai gymryd rhy hir cyn y bydd popeth wedi’i gwblhau, ond mae’r cwsmeriaid wedi bod yn wych tra mae’r gwaith wedi’i gyflawni ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI