Ydych chi’n defnyddio unrhyw rai o’n toiledau cyhoeddus?
Fel cyngor, rydym yn gweithredu nifer o gyfleusterau cyhoeddus drwy’r fwrdeistref sirol.
Yn ogystal â rhai cyfleusterau cyhoeddus yng nghanol tref Wrecsam, rydym hefyd yn gyfrifol am y rheiny sydd mewn nifer o adeiladau cyhoeddus – fel canolfannau hamdden, canolfannau adnoddau cymunedol a llyfrgelloedd – ac mewn ardaloedd awyr agored fel parciau gwledig.
COFRESTRWCH FI AM RYBUDDION E-BOST GAN YR ADRAN DIOGELU’R CYHOEDD RŴAN!
Rhan o’n cyfrifoldeb wrth redeg y cyfleusterau toiledau hyn yw sicrhau eu bod yn bodloni anghenion pobl – p’un ai ydynt yn eu defnyddio’n aml, neu ddim ond o dro i dro.
Os nad ydynt yn bodloni anghenion pobl, rhaid i ni eu gwella. Yn amlwg allwn ni ddim gwneud hynny os nad ydym yn gwybod beth yw barn pobl amdanynt.
Ond mae angen i ni wybod hefyd os ydynt o unrhyw help – ac yn arbennig, rhaid i ni wybod os oes pobl wedi bod angen toiled cyhoeddus, ond nad oes toiled wedi bod ar gael.
Felly gyda hynny mewn golwg, rydym wedi cychwyn arolwg ar ein cyfleusterau cyhoeddus, sydd ar agor i unrhyw un sydd am gymryd rhan.
Mae angen i ni glywed gan drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Hoffem glywed gan unrhyw un sy’n defnyddio ein toiledau cyhoeddus yn rheolaidd – neu sy’n dibynnu ar gyfleusterau penodol fel toiledau anabl neu ardaloedd newid babanod.
Os hoffech gymryd rhan, cliciwch ar y ddolen yma er mwyn mynd at ein gwefan Eich Llais.
Mae copïau papur o’r arolwg hefyd ar gael yn ein Canolfan Gyswllt ar Stryt Yr Arglwydd, Wrecsam, yn ogystal ag yn ein holl ganolfannau hamdden a’n llyfrgelloedd.
Bydd yr arolwg ar agor tan ddydd Gwener, 12 Gorffennaf – felly mae digon o amser ar ôl i gymryd rhan.
Rwyf eisio derbyn rhybuddion yn y dyfodol gan yr adran Diogelu’r Cyhoedd
COFRESTRWCH FI RŴAN