Ydych chi’n derbyn ein rhybuddion e-bost yn eich atgoffa am eich bin? Os nad ydych chi, dyma ychydig o resymau pam yr hoffech chi ystyried cofrestru i’w derbyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Pan fyddwch chi’n cofrestru i dderbyn y rhybuddion, fe fyddwch chi’n cael e-bost i’ch atgoffa cyn eich casgliad nesaf, ond mae hefyd yn ffordd dda i ni gysylltu â chi am unrhyw amhariadau allai effeithio ar y gwasanaeth.
“Dros gyfnod y Nadolig, roedd modd i ni ddefnyddio’r e-byst atgoffa i roi gwybod i danysgrifiwyr am unrhyw newidiadau, felly roedd y preswylwyr hynny’n gwybod pa fin i’w roi allan dros y Nadolig, er bod yna amhariadau.”
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Os hoffech chi e-byst i’ch atgoffa am eich bin, cliciwch yma a dilynwch y ddolen i gofrestru. Cofiwch, os gwnewch chi hyn, fe gewch chi neges e-bost i’ch atgoffa i roi’ch biniau allan y diwrnod cynt. Os ydych chi eisoes yn derbyn y negeseuon atgoffa yma gennym ni, does dim angen i chi wneud unrhyw beth.
DERBYN RHYBUDD I’CH ATGOFFA AM EICH BIN
Gwirio’r calendr biniau
Mae gwirio’r calendr biniau yn ffordd arall y gallwch sicrhau eich bod yn rhoi’r bin cywir allan. Fe allwch chi weld y calendr yn gyflym ac yn hawdd ar eich ffôn clyfar, eich llechen neu ddyfeisiau eraill, a bydd gwneud hynny’n helpu sicrhau na fyddwch chi’n methu eich diwrnod casglu.
Gwiriwch eich calendr biniau yma:
Ddim yn siŵr os mai Calendr 1 neu Calendr 2 ydych chi? Dim problem, yn syml ychwanegwch eich cod post neu enw’r stryd yma i ddarganfod pa galendr casgliad rydych chi ei angen.
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL