Mae canol tref Wrecsam yn paratoi ar gyfer un o’r digwyddiadau pêl-droed mwyaf ers blynyddoedd efo gêm her ryngwladol gyntaf Cymru yn 2019 yn cael ei chwarae yn ein Stadiwm Cae Ras chwedlonol ddydd Mercher 20 Mawrth.
Dyma fydd y tro cyntaf i Gymru herio Trinidad a Tobago ers mis Mai 2006 yn Graz, Awstra – gêm gyntaf Gareth Bale i Gymru pan fuodd o gymorth i Robert Earnshaw sgorio’r gôl fuddugol yn ystod y fuddugoliaeth o 2 i 1.
Ond peidiwch ag ofni… Bydd diwrnod y gêm yng Nghanol y Dref yn un i’w gofio.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Gwnewch ddiwrnod ohono
Yn ystod y dydd mae llwyth o weithgareddau ar gyfer teuluoedd yng Nghanol y Dref a bydd amryw o dafarndai yn dangos y gêm yn nes ymlaen fin nos – beth gewch chi well? Edrychwch beth sydd ymlaen –
- Y Farchnad Gyfandirol
- Ffair Hwyl y Gwanwyn
- Gweithgareddau yn Nhŷ Pawb
- Arddangosfeydd yn ymwneud â Phêl-Droed Cymru yn Amgueddfa Wrecsam
- Y gêm i’w gweld mewn amrywiol dafarndai yng Nghanol y Dref
Rheolwr Cymru Ryan Giggs; “Dw i wrth fy modd ein bod yn gallu chwarae ar y Cae Ras am y tro cyntaf ers 10 mlynedd. Fe wnaethon ni fwynhau mynd a’r tîm yno am sesiwn hyfforddi agored fis Mai. Roedd y gefnogaeth yn anhygoel ac bu’n sbardun i ni gynnal gêm ar y maes hanesyddol.”
Ac i’r rhai ohonoch nad ydynt am beth bynnag reswm yn edrych ymlaen at yr ornest anhygoel hon o dalent rhyngwladol, edrychwch yn ôl ar foment hanesyddol o bêl-droed Cymru – Mark Hughes yn sgorio ei gic siswrn enwog yn erbyn Sbaen ar y Cae Ras yn 1985!
https://www.youtube.com/watch?v=QUyv9HOViCQ
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fi Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI