Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cafodd lawer o bobl atebion i’w cwestiynau am ailgylchu yn Nhŷ Pawb…ond os nad oeddech yno, dyma beth a fethoch
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cafodd lawer o bobl atebion i’w cwestiynau am ailgylchu yn Nhŷ Pawb…ond os nad oeddech yno, dyma beth a fethoch
Pobl a lleY cyngor

Cafodd lawer o bobl atebion i’w cwestiynau am ailgylchu yn Nhŷ Pawb…ond os nad oeddech yno, dyma beth a fethoch

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 14, 2019 11:45 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Recycling Ty Pawb Wrexham
RHANNU

Rhwng 10am a 12.30pm ar ddydd Gwener 8 Mawrth, roedd ein swyddogion ailgylchu a’r Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant wrth law i ateb eich cwestiynau am ailgylchu yn Nhŷ Pawb.

Cynnwys
  • Felly, beth oedd gan bobl ar eu meddyliau?
  • Negeseuon atgoffa binning

Roeddent hefyd yn dosbarthu cadis newydd, bagiau cadis, bagiau ailgylchu, calendrau ailgylchu a gorchuddion rhwyd ar gyfer blychau ailgylchu, i helpu pobl yn eu hymdrechion i ailgylchu.

EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…

Roedd awyrgylch dda yno wrth i Wayne Anderson, Maria Hughes a’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd a Chludiant, ateb cwestiynau am dros ddwy awr.

Dywedodd y Cyng. Bithell: “Roedd yn braf cael siarad â phobl Wrecsam am ailgylchu a mynd i’r afael â’r pethau sydd ar eu meddyliau.

“Fe wnaethom hefyd roi nifer fawr o gadis a bagiau cadis i bobl, ac roeddem gennym bethau defnyddiol eraill i’w rhoi i bobl hefyd. Mae pobl wedi bod yn gadarnhaol iawn a dyma’r agwedd a fydd yn ein helpu i gyrraedd ein targed ailgylchu o 70%. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i bawb a ddaeth i’n gweld.”

Cafodd lawer o bobl atebion i’w cwestiynau am ailgylchu yn Nhŷ Pawb...ond os nad oeddech yno, dyma beth a fethoch
Cafodd lawer o bobl atebion i’w cwestiynau am ailgylchu yn Nhŷ Pawb...ond os nad oeddech yno, dyma beth a fethoch

Felly, beth oedd gan bobl ar eu meddyliau?

Dyma grynodeb o’r cwestiynau mwyaf cyffredin…

Sut allaf gael cadi bwyd newydd?

Roedden nhw’n eu rhannu allan ar y dydd, ond os nad oeddech yno gallwch archebu cadi newydd – am ddim – ar ein gwefan. Gallwch hefyd archebu blychau ailgylchu a biniau gwyrdd newydd yma, codir tâl am finiau gwyrdd.

Beth allaf i ei ailgylchu fel gwastraff bwyd?

Cwestiwn da – mae’r wybodaeth hon i’w gweld yn ein erthygl blog diweddaraf sydd ar gael yma…

Mae ailgylchu yn achosi dryswch i mi… beth sy’n mynd i ble?

Eto, mae gennym erthygl blog sy’n darparu’r holl wybodaeth… darllenwch y cyfan yma…

Pam mae’n rhaid i mi lanhau pethau cyn i mi eu hailgylchu?

Mae golchi eich potiau, tybiau, três a photeli plastig cyn iddynt gael eu casglu yn golygu fod deunydd ailgylchu o ansawdd llawer uwch yn cael ei anfon i’w ailgylchu i greu cynhyrchion newydd. Nid ydym yn gofyn i chi dreulio amser yn eu glanhau, dim ond eu rinsio’n sydyn mewn hen ddŵr golchi llestri i gael gwared ar unrhyw weddillion bwyd 🙂

Rydw i’n clywed sôn o hyd am blastig untro… beth ydy hynny?

Yn y bôn, plastig untro yw’r pethau hynny sy’n anodd eu hailgylchu ac sy’n tueddu i gael eu defnyddio un waith, cyn cael eu taflu. Un o’r prif ffyrdd y gallwch fod yn well wrth ailgylchu yw peidio â defnyddio plastig untro a defnyddio opsiynau bioddiraddadwy neu rhai y gellir eu hailddefnyddio gymaint â phosib. Eisiau gwybod mwy? Cwblhewch ein cwis am blastig 🙂

[interact id=”5c5063a975b7dc00142e6072″ type=”quiz”]

Dyma grynodeb bach o rai o’r cwestiynau a ofynnwyd. Mae gennym ddetholiad mwy o gwestiynau cyffredin ar brif wefan y cyngor.

Negeseuon atgoffa binning

Cofiwch, gallwch hyd yn oed danysgrifio i dderbyn negeseuon atgoffa o ddyddiau casgliadau biniau, sy’n anfon e-bost atoch ddiwrnod cyn y casgliadau bob wythnos.

Diolch am ailgylchu 🙂

Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_24″] COFRESTRU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol New resource lets pupils practice their Welsh language skills from home Ydych chi’n gêm am hyn, Wrecsam?
Erthygl nesaf Mae’r Noson Gomedi yn ôl! Mae’r Noson Gomedi yn ôl!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English