Oes gennych chi sgiliau gwrando a chyfathrebu da a gwerthfawrogiad o’r effaith y mae gwahanu a galar yn ei gael ar blant?
Os felly, byddem yn falch o glywed gennych. Rydym yn chwilio am ddau aelod annibynnol newydd i ymuno â’n Panel Maethu ac rydym yn chwilio’n benodol am bobl sydd â phrofiad o gael eu maethu neu sydd wedi bod yn rhiant maeth gydag awdurdod lleol arall.
“Arfer personol a phroffesiynol”
Mae’n swydd gyfrifol a buddiol i’r unigolyn cywir gan y byddwch yn gwneud argymhellion ar bob achos trwy ddefnyddio eich gwybodaeth a phrofiad personol a phroffesiynol.
Mae’r swydd hefyd yn edrych ar Adolygiadau Blynyddol o holl ofalwyr maeth y sir ac yn monitro polisïau, gweithdrefnau ac arferion proffesiynol da.
Bydd y panel yn cwrdd unwaith y mis, ac efallai y bydd angen cyfarfodydd ychwanegol oherwydd amserlenni’r llys a bydd disgwyl i fynychu o leiaf 75% o’r holl gyfarfodydd yma.
Mae yna becyn ariannol bychan ar gael sef £100 y flwyddyn a chostau teithio.
Oes gennych chi ddiddordeb? Yna cysylltwch trwy lenwi’r ffurflen hon a’i hanfon at claire.gooding@wrexham.gov.uk a fostering@wrexham.gov.uk
Dyddiad cau’r ceisiadau ydi 8 Mehefin a bydd y cyfweliadau’n cael eu cynnal ar 18 Mehefin.
“Rôl bwysig iawn yn lles plant”
Meddai’r Cynghorydd Bill Baldwin, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae’r Panel yn chwarae rôl bwysig iawn yn lles plant ac mae’n bwysig bod cynrychiolaeth dda arno. Ar hyn o bryd rydym yn chwilio yn benodol am rai sydd â phrofiad o fod yn blentyn sydd wedi derbyn gofal, unigolion o gefndir ethnig gwahanol, pobl anabl a dynion – mae pob un ohonynt wedi’u tangynrychioli ar y panel, ac fe hoffem newid hynny. Rwy’n annog unrhyw un sy’n gofalu am blant i roi ystyriaeth lawn i wneud cais ac rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych chi.”
COFRESTRWCH AM FILIAU DI-BAPUR