Os ydych chi’n cyflogi pobl yn y sector gofal cymdeithasol, yna mae rhai dyddiadau ar gyfer eich dyddiadur ar y ffordd.
Ar ôl ymgynghori â chyflogwyr eraill yn y sector, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi llunio cyfres o gyrsiau a digwyddiadau sydd wedi eu creu’n benodol i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar y rhestr isod ac yn archebu eich lle.
Sesiwn addasrwydd cyflogwr gofal cymdeithasol i ymarfer
Dyddiad: 4 Chwefror, 2025
Amser: 10-11:30am
Lleoliad: Ar-lein
Mae’r sesiwn hon ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol, unigolion cyfrifol ac unrhyw un arall sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a all wneud atgyfeiriadau i’n tîm addasrwydd i ymarfer.
Yn ystod y sesiwn hon byddwn yn ystyried:
• mathau gwahanol o amhariad ac enghreifftiau o’r adeg pan y gallai ymarfer gweithiwr gael ei amharu
• Codau Ymarfer Proffesiynol ar gyfer Gofal Cymdeithasol
• pam y dylid gwneud atgyfeiriadau i ni
• sut i godi pryder am unigolyn a gwneud atgyfeiriad
• pryd i wneud atgyfeiriad
• beth i’w atgyfeirio a beth i beidio ei atgyfeirio
• y broses ymchwilio
• cymorth sydd ar gael i weithwyr, tystion a’r rhai sy’n codi pryder gyda ni
Cefnogi’r Gymraeg yn eich gweithle
Dyddiad: 10 Chwefror, 2025
Amser: 9:30am-12pm
Lleoliad: Hyb Lles, 31 Stryd Caer, Wrecsam, LL13 8BG
30 o leoedd ar gael (uchafswm o 2 i bob sefydliad)
Mae’r Gymraeg yn rhan o’n hunaniaeth ni i gyd ac mae ychydig bach o Gymraeg yn mynd yn bell. Nid yw’n ymwneud â ‘beth alla i ei wneud’ ond ‘beth allwn NI ei wneud’. Alla i ddim gwneud popeth, ond gallwn NI wneud rhywbeth.
Yn y sesiwn hon byddwch yn clywed am yr hyn sydd angen i chi ei wneud a’r adnoddau sydd ar gael i’ch cefnogi i ddarparu gwasanaethau o safon i siaradwyr Cymraeg a gwneud y cynnig rhagweithiol.
Mae’r sesiwn hon ar gyfer cyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig oedolion, gan gynnwys unigolion cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.
Diwrnod lles ac arweinyddiaeth ar gyfer rheolwyr gofal cymdeithasol oedolion.
Dyddiad: 11 Mawrth, 2025
Amser: 9:30am-3pm
Lleoliad: Parc Gwledig Dyfroedd Alun
40 o leoedd ar gael (uchafswm o 2 i bob sefydliad)
Os hoffech chi fod yn arweinydd mwy tosturiol, y lle gorau i ddechrau yw gyda chi eich hun.
Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i ddysgu mwy am y pethau y gallwch chi eu gwneud i gefnogi eich lles eich hun fel rheolwr.
Dilynir hyn gan gyflwyniad i arweinyddiaeth dosturiol, lle gallwch ddysgu mwy am bwysigrwydd tosturi tuag at wella canlyniadau, lles a chadw staff a diwylliant eich sefydliad.
Mae’r sesiwn hon ar gyfer:
Cyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig oedolion, gan gynnwys unigolion cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.
Darperir lluniaeth a chinio.
Cefnogi gweithwyr rhyngwladol –
Sut i gefnogi pobl sy’n newydd i fyw a gweithio yng Nghymru
Dyddiad: 18 Mawrth, 2025
Amser: 10 – 11:30
Lleoliad: Ar-lein
Gwyddom fod mwy o bobl yn symud i Gymru i ddarparu gofal a chymorth hanfodol.
Mae gweithwyr sy’n cael eu cefnogi a’u hysgogi yn fwy tebygol o barhau i weithio i chi am gyfnod hirach.
Byddwn yn rhannu canllaw gyda chi sydd ar gael i gefnogi pobl sy’n newydd i fyw a gweithio yng Nghymru.
Bydd y sesiwn hon hefyd yn eich cysylltu â rheolwyr ac arweinwyr tîm eraill i rannu profiadau ynghylch sut i groesawu staff newydd a’u setlo i’w rôl newydd.
Mae’r sesiwn hon ar gyfer cyflogwyr gweithwyr gofal cymdeithasol cofrestredig oedolion, gan gynnwys unigolion cyfrifol a rheolwyr cofrestredig.