Os ydych, hoffem eich gwahodd i’n Fforwm Landlordiaid lle gallwch gael cyngor a chymorth gwerthfawr ar ystod o destunau.
Mae gennym siaradwyr yn rhoi cyngor a chyfarwyddyd ar:
- Newidiadau i’r Lleiafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni i’r sector rhentu preifat.
- Grantiau a chyllid ar gael i wella effeithlonrwydd ynni eich eiddo ar rent.
- Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ar newidiadau i safonau canfod tân mewn eiddo rhent.
- Adran Gwaith a Phensiynau ar Gredyd Cynhwysol.
- Cymru Cynnes ar sut maent yn gweithio gyda Landlordiaid a Thenantiaid i roi mynediad i grantiau a chyllid yn ogystal ag arwyddbostio a chefnogaeth i’r sawl â gofynion corfforol ac iechyd meddwl.
Oes gennych chi ddiddordeb?
Yna ymunwch â ni yng Nghanolfan Catrin Finch, Prifysgol Glyndŵr, Ffordd yr Wyddgrug, Wrecsam. LL11 2AW ar 26 Chwefror.
Mae’r digwyddiad am ddim a chynhelir rhwng 17:30 a 19:30, darperir lluniaeth.
Anfonwch e-bost at healthandhousing@wrexham.gov.uk i gofrestru eich presenoldeb
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN