Os byddwch chi’n pleidleisio fel dirprwy ar ran rhywun arall yn yr etholiad cyffredinol eleni, dylech wybod fod y rheolau wedi newid.
Gall pobl bleidleisio drwy ddirprwy gan benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt i fynd i’r orsaf bleidleisio ar eu rhan a bwrw pleidlais yn unol â’u dymuniad.
Mae’r rheolau newydd yn golygu y gall rhywun fod yn ddirprwy ar ran hyd at bedwar o bobl, ond rhaid mai dim ond dau o’r rheiny sy’n byw yn y Deyrnas Gyfunol a bod y ddau arall yn bleidleiswyr tramor.
Gallwch wneud cais ar-lein i rywun bleidleisio fel dirprwy ar eich rhan os ydych eisiau iddynt wneud hynny ar gyfer un etholiad yn unig. Y dyddiad cau am geisiadau ar gyfer etholiad cyffredinol mis Gorffennaf yw Mehefin 26.
Os hoffech i rywun bleidleisio fel dirprwy ar eich rhan am ryw gyfnod penodol o amser neu tan i chi ddiddymu’r trefniant, cysylltwch â thîm etholiadol Cyngor Wrecsam drwy ffonio 01978 292020.