Mewn rhai etholiadau yn y DU, mae’n ofyniad cyfreithiol ar bleidleiswyr i ddangos prawf adnabod â llun wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. (Gallwch wirio pa etholiadau sy’n gofyn am brawf adnabod â llun ar wefan y Comisiwn Etholiadol.)
Ond os ydych chi’n poeni y gallai bod â’ch enw a’ch cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol effeithio ar eich diogelwch, neu ddiogelwch rhywun yn eich aelwyd, gallwch gofrestru i bleidleisio’n ddi-enw.
Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n gallu pleidleisio ond ni fydd eich enw a’ch cyfeiriad ar y gofrestr etholiadol. Ni fydd eich swyddfa cofrestru etholiadol yn datgelu eich manylion i unrhyw un, oni bai bod gofyniad cyfreithiol iddynt wneud hynny.
Gallwch gofrestru i bleidleisio’n ddi-enw ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Gwneud cais am Ddogfen Etholydd Di-enw
Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio’n ddi-enw, a’ch bod chi’n dymuno pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio, bydd angen i chi wneud cais am Ddogfen Etholydd Dienw ar gyfer etholiadau sy’n gofyn am brawf adnabod â llun. Ni allwch ddefnyddio unrhyw fathau eraill o brawf adnabod â llun er mwyn pleidleisio, oherwydd mai rhif yn hytrach na’ch enw sydd ar eich cofnod yn yr orsaf bleidleisio.
Gellir cael y ddogfen hon, sy’n cynnwys rhif etholydd di-enw a llun, yn rhad ac am ddim gan eich swyddog cofrestru etholiadol, ar ôl gwirio hunaniaeth yr ymgeisydd. Gallwch ganfod manylion eich swyddog cofrestru etholiadol trwy roi eich cod post yn y blwch chwilio ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Ni ellir defnyddio’r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr na’r Ddogfen Etholydd Di-enw fel prawf adnabod ar gyfer unrhyw ddiben arall ar wahân i bleidleisio.