Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 – Gŵyl Lenyddol Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 – Gŵyl Lenyddol Wrecsam
Y cyngorArall

Gŵyl Geiriau Wrecsam 2024 – Gŵyl Lenyddol Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 6, 2024 1:46 pm
Rhannu
Darllen 8 funud
Carnival
RHANNU

Mae Gŵyl Geiriau Wrecsam, un o wyliau llenyddol blaenllaw Cymru, wedi llunio rhaglen wych i ddathlu ei 10 pen-blwydd yn 2024. Bydd gŵyl eleni yn cael ei chynnal rhwng 20 a 27 Ebrill gydag ystod eang o awduron adnabyddus.

Yr awdur lleol Simon McCleave, awdur The Wrexham Killings y llyfr diweddaraf yng nghyfres drosedd a chyffro hynod boblogaidd DI Ruth Hunter, fydd y prif westai ar ddiwrnod cyntaf yr Ŵyl. Yn ymuno â Simon ar y llwyfan bydd Katy Watson, awdur llwyddiannus y nofelau trosedd Oes Aur gyda thinc modern, The Three Dahlias ac A Very Lively Murder. Fe fydd yna gyfrinachau lu i’w datgelu yn y sesiwn arbennig hon.

Fe fydd yna lawer mwy i’r rhai sy’n hoff o’r genre wrth i’r awdur ffuglen drosedd llwyddiannus Vaseem Khan herio’r gynulleidfa i ddatrys pos dieflig – gyda llyfr arbennig i’w ennill fel gwobr. Bydd y Dirgelwch Llofruddiaeth eleni yn cynnwys sgript gan awduron lleol, gyda’r cynnig buddugol i’w ddatgelu’n fuan.

Bydd perfformiad arbennig yn cynnwys gwaith Joanne Harris, awdur rhyngwladol poblogaidd Chocolat (y nofel a enillodd wobrau a’r ffilm Hollywood), a llawer o nofelau llwyddiannus eraill. Mae Joanne wedi ymuno â’r Storytime Band i greu sioe fyw yn cynnwys straeon o’i nofel ffantasi  Honeycomb, gyda delweddau a cherddoriaeth drawiadol. Mae’r sioe wedi ei disgrifio fel un “bersonol, atyniadol, sy’n cynnwys yr hynod a hud tywyll, gan apelio at gynulleidfaoedd o bob oed, ond yn enwedig y rhai hynny sydd wrth eu boddau â chwedloniaeth, ffantasi a straeon tylwyth teg.”

Ymysg yr awduron eraill a fydd yn amlwg yng Ngŵyl 2024 fydd Catherine Isaac awdur poblogaidd y Sunday Times a sydd hefyd yn ysgrifennu o dan yr enw Jane Costello. Mae ei straeon serch emosiynol a’i chomedïau rhamantaidd wedi eu dewis gan Glwb Llyfrau Richard a Judy ac mae wedi ennill gwobr y Nofelwyr Rhamantaidd ddwywaith. Mae’r awdur, newyddiadurwr a’r cyflwynydd Teledu Suzan Holder wedi gwau ei hoffter o gerddoriaeth a chomedi i’w dwy gomedi ramantaidd Shake It Up, Beverley gyda thema’r Beatles a Rock n’ Rose, sydd wedi ei gosod yn ardaloedd Elvis Presley Memphis a Graceland.

Bydd “Barddoniaeth: Yn Fyw a Pheryglus” yn cynnwys y bardd o Felfast Elizabeth McGeown a bydd yn darparu llwyfan i feirdd lleol rannu eu cerddi diweddaraf mewn digwyddiad a noddir gan Moneypenny, cwmni lleol llwyddiannus. Bydd mwy o farddoniaeth wych yn cael ei darparu gan feirdd yr A470.

Ni fydd y rhai sy’n hoff o hanes eisiau colli’r her ‘Mae fy Oes i’n Well Na’ch Un Chi’ gyda phedwar o awduron ffuglen hanesyddol dawnus yn dadlau o blaid eu cyfnod.  Catrin Kean yn dadlau dros y Saithdegau; E. M. Powell ar ran y Plantagenet; Kate Innes ar gyfer y Minoaid; a Sarah Woodbury dros Oes a Chyfnod Llywelyn ein Llyw Olaf. Prif westai’r noson fydd Alis Hawkins a fydd yn siarad am ei chyfres o nofelau dirgelwch, ‘Teifi Valley Coroner’, sydd wedi eu lleoli yng Ngorllewin Cymru yn ystod y 1850au, yn ogystal â’r nofel a gyhoeddodd yn 2023, A Bitter Remedy – a’r nofel ddilynol y bu disgwyl mawr amdani, The Skeleton Army – y ddwy wedi’u gosod yn Rhydychen yn yr 1880au ym more oes y mudiad colegau merched. 

Yn dychwelyd wedi galw mawr bydd Mike Parker, awdur llwyddiannus Map Addict ac On the Red Hill. Yn ddiweddar fe gerddodd Mike ar hyd ffin Cymru, taith mae’n ei disgrifio yn All the Wide Border, ac fe fydd yn trafod sut mae ei waith yn ymwneud â Chymru ac yn cael ei ysbrydoli gan y wlad.

Mae llwyddiant ysgubol nofel gyntaf Philippa Holloway, The Half-Life of Snails – sydd wedi’i lleoli yn Ynys Môn ac yn Wcráin – yn ymdrin â’r ddadl gyfan ynglŷn ag ynni niwclear mewn stori llawn tensiwn am gysylltiadau rhwng pobl a chymunedau yn y wlad sydd o’u hamgylch.

Bydd sgwrs arbennig gan yr academydd a’r llyfrgellydd Rheinallt Llwyd o Aberystwyth i ddathlu Islwyn Ffowc Elis, awdur Cymraeg uchel ei barch a anwyd yn Wrecsam ganrif yn ôl, a bydd yn trafod ei flynyddoedd cynnar yn Nyffryn Ceiriog.

Bydd awduron lleol ac awduron newydd yn gallu mynychu digwyddiad rhad ac am ddim i gyfarfod awduron lleol eraill, beirdd, blogwyr, newyddiadurwyr a chyfansoddwyr caneuon gan gymryd rhan yn y sesiynau panel bywiog “Straeon o Wlad Hud” ac “O Twilight i Star Wars”. Fe fydd yna hyd yn oed ddarllenathon gan ddarllenwyr lleol o nofel glasurol Victor Hugo Les Miserables.

Caiff teuluoedd eu gwahodd yn wresog i ddigwyddiad rhad ac am ddim yn Llyfrgell Wrecsam lle bydd Dynamic’s Signing Sensations a’r storïwyr i blant Jude Lennon, Fay Evans a Sarah Parkinson yn diddanu plant ac oedolion ddydd Sadwrn 20 Ebrill. Bydd Magi Ann yn diddanu plant iau yn y Gymraeg a’r Saesneg a bydd yr awdur llyfrau plant llwyddiannus Elen Caldecott yn egluro “Sut mae Llyfrau’n Bod?” ac yn dangos sut y gall pawb ddod yn awduron. Bydd gwobr farddoniaeth flynyddol Rotari Wrecsam hefyd yn cael ei chyflwyno yn ystod y diwrnod.

Bydd Gŵyl Geiriau 2024 yn cael ei lansio’n ffurfiol gyda digwyddiad arbennig ar 27 Mawrth gyda Siân Hughes, y bardd llwyddiannus a gafodd ei chynnwys ar y rhestr hir ar gyfer Gwobr Booker 2023 am ei nofel gyntaf wych Pearl. Bydd Siân yn sôn am ei hysbrydoliaeth ar gyfer y nofel arbennig hon sydd wedi’i lleoli yr ochr draw i’r ffin yn Tilston, Swydd Gaer.

“Eleni mae’r Ŵyl yn ei hôl mor gryf ag erioed”

Dywedodd Cyfarwyddwr yr Ŵyl Dylan Hughes: “Eleni mae’r Ŵyl yn ei hôl mor gryf ag erioed gyda rhaglen amrywiol a chyffrous o ddigwyddiadau, ac rydym yn gobeithio y bydd pobl leol sy’n hoff o lyfrau a darllen yn ymuno â ni i gwrdd â’r awduron gwych yn ein rhaglen.”

Mae’r rhaglen i’w gweld yma https://wrexhamcarnivalofwords.com/cy/homewelsh/ ac mae tocynnau ar gyfer digwyddiadau unigol ar gael nawr gyda Thocyn yr Ŵyl hefyd ar gael am bris gostyngol o £35 hyd at ddiwedd Mawrth.

Mae Castanwydden Bêr Wrecsam wedi cyrraedd cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn. Ewch i fwrw eich pleidlais yn awr i sicrhau ei bod yn cael cydnabyddiaeth eang y mae’n ei haeddu

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Wyddoch chi fod arnoch chi angen prawf adnabod â llun i bleidleisio?

Rhannu
Erthygl flaenorol Cycling Cyrsiau beicio rhad ac am ddim ar y gweill – archebwch eich lle!
Erthygl nesaf bleidleisio’n Ydych chi’n poeni bod eich enw ar y gofrestr etholiadol?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Guildhall
Arall

Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw

Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
ArallBusnes ac addysgPobl a lle

Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr

Awst 13, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English