Ers mis Tachwedd 2016, bu’n orfodol i bob eiddo a rentir yn breifat yng Nghymru gael ei gofrestru, ac i bob landlord ac asiant i gofrestru a gwneud cais am drwydded.
Mae Rhentu Doeth Cymru yn prosesu cofrestru landlordiaid a rhoi trwyddedau i landlordiaid ac asiantau sudd yn gorfod gydymffurfio â Deddf Tai (Cymru) 2014.
Hyd yma mae 2,248 o landlordiaid wedi cofrestru yn ardal Wrecsam. Os nad ydych chi’n un ohonyn nhw, mae angen ichi wneud rhywbeth am hyn nawr.
Mae’n anghyfreithlon i landlord neu asiant weithredu heb drwydded a gallai wynebu hysbysiad cosb o £150/£250 neu hyd yn oed erlyniad.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Sut i wneud cais am hyfforddiant
Mae Rhentu Doeth Cymru yn rhedeg un o’i gyrsiau hyfforddi landlordiaid yn Wrecsam y mis hwn.
Cynhelir y cwrs ym Mhrifysgol Glyndŵr ar 15 Medi 2017.
Bydd y cwrs yn darparu trosolwg byr o Ran 1 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac yna’n symud yn gyflym i ddarparu ystod gynhwysfawr o bynciau a fydd o werth i unrhyw landlord sy’n rhentu eiddo yng Nghymru.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd y Cyngor, y Cyng. Hugh Jones: “Mae Rhentu Doeth Cymru yn gynllun nodedig sy’n gwella rhagolygon tai tenantiaid yn y sector rhentu preifat gan ei gwneud yn ofynnol i reolwyr landlordiaid ac asiantau ymgymryd â hyfforddiant i sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau.
“Byddwn yn annog unrhyw un sy’n ymwneud â rhentu tai preifat i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth hon ac yn manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd hyfforddi sydd ar gael yn ardal Wrecsam.”
Am ragor o fanylion am y cynllun trwyddedu newydd, neu i gadw’ch lle ar y cwrs hwn, ewch i wefan Rhentu Doeth Cymru neu ffoniwch 03000 133344
FFONIWCH AR EICH FFÔN SYMUDOL
Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI