Mae gennym ddiwrnod allan gwych wedi’i drefnu mewn ychydig wythnosau.
Dim llawer o amser i fynd nes ein Picnic ym Mharc Bellevue, y digwyddiad blynyddol i denantiaid ym Mharc Bellevue o 10yb tan 3yp ddydd Mercher, 22 Awst.
Mae’n addo bod yn ddiwrnod gwych, gyda llawer o weithgareddau a chystadlaethau wedi eu trefnu.
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
Mae digwyddiadau a gynigir yn cynnwys sioeau cŵn, cystadlaethau taflu esgidiau glaw a gwisg ffansi.
A bydd y diweddglo yn cynnwys tenantiaid, staff y cyngor a chynghorwyr yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth tynnu rhaff arall!
Digon i’w gynnig
Bydd yna hefyd sioeau dawnsio a gweithgareddau chwaraeon wedi eu trefnu gan y tîm Wrecsam Gweithgar.
Bydd cerddorion lleol The Factory Hens yn darparu cerddoriaeth fyw ac adloniant a bydd lluniaeth ar gael drwy’r dydd – ond mae croeso ichi ddod â’ch picnic eich hun.
Bydd staff o’n gwasanaeth tai ar gael i helpu a chynghori tenantiaid, ynghyd â sefydliadau eraill fel yr Ymddiriedolaeth Groundwork, y GIG, Undeb Credyd Cambrian ac The Dog’s Trust, fydd yn darparu microsglodynnu am ddim a gwiriadau iechyd i gŵn.
Am ddim i bob tenant
Bydd y digwyddiad am ddim i holl denantiaid Cyngor Wrecsam, gyda thocynnau ar gael ar y diwrnod ar gyfer reidiau am ddim yn y ffair a pheintio wynebau.
Bydd parcio am ddim hefyd yn Ysgol Clywedog ar Ffordd Rhuthun.
Bydd gan y sawl sy’n dod draw siawns i ennill gwobrau fel teledu a thaleb £50 Tesco a llawer o wobrau eraill.
“Peidiwch â cholli allan”
Dywedodd y Cynghorydd David Griffiths, Aelod Arweiniol Tai: “Byddwn yn annog holl denantiaid i beidio methu allan ar yr hyn sy’n addo i fod yn ddiwrnod llawn hwyl ym Mharc Bellevue.
“Mae yna ddigon i’w gynnig drwy’r dydd, a bydd yn ddigwyddiad llawn hwyl i blant yn ystod y gwyliau.”
Wedi gweld tipio anghyfreithlon? Gadewch i ni wybod ar-lein
DDWEDWCH WRTHYM AM DIPIO ANGHYFREITHLON AR-LEIN